Ynglŷn â ni
Mae First yng Nghymru yn cludo tua 21 miliwn o deithwyr y flwyddyn ar rwydwaith o lwybrau yn Ne a Gorllewin Cymru, yn gwasanaethu Sir Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd, Port Talbot, Abertawe, Llanelli, Caerfyrddin, Hwlffordd a De Sir Benfro.
Yn gyffredinol, mae teithiau'n cynnwys gwasanaethau bysiau trefol a rhyngdrefol sy'n rhedeg yn aml iawn, gan ddefnyddio bysiau modern a hygyrch. Caiff y rhain eu hategu gan y gwasanaeth coetsis 'Shuttle 100' cyflym o Abertawe i Gaerdydd.
Mae'r cwmni yn cyflogi bron 1000 o staff ac mae ganddo fflyd o tua 350 o gerbydau. Mae First Cymru yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol ledled yr ardal i sicrhau ymagwedd bartneriaeth i gynllunio a datblygu gwasanaethau newydd a rhoi sylw i faterion cynhwysiad cymdeithasol.
Gall First Cymru gynnig ystod o docynnau arbennig i deithwyr aml fel y gallwch wneud mwy o arbedion wrth i chi deithio ar fysiau yn Ne a Gorllewin Cymru.
P'un ai ydych chi'n gwneud nifer o deithiau mewn un diwrnod yn unig neu'n cymudo'n aml, mae gennym docyn sy'n addas ar gyfer eich anghenion a'ch poced.
Manylion y cwmni
First Cymru Buses Limited. Cofrestredig yng Nghymru a Lloegr, rhif 00133884. Swyddfa Gofrestredig: Heol Gwyrosydd, Penlan, Abertawe, Gorllewin Morgannwg, SA5 7BN.