Neges gan y Rheolwr Gyfarwyddwr

Roeddem wrth ein bodd pan agorodd Gorsaf Fysiau Abertawe'n brydlon ar 3 Rhagfyr. Rwyf yn siwr y bydd ein holl gwsmeriaid yn croesawu'r lle aros newydd a'r systemau gwybodaeth gwell.

Yn debyg i hyn, cafodd y gwasanaeth Greyhound o Abertawe i Gaerdydd, sydd wedi cymryd lle'r gwasanaeth 'Shuttle' cyfarwydd, groeso mawr, a chafodd y lefel moethusrwydd a chyfleusterau newydd mae'r coetsis yn eu cynnig eu croesawu gan gymudwyr a theithwyr hamdden fel ei gilydd. Bellach mae'r gwasanaethau hyn yn ymadael o stondin 'C' (am 'Caerdydd'?) yn yr orsaf fysiau newydd felly erbyn hyn nid oes angen cerdded ar draws canol y ddinas wrth newid gwasanaethau.

Yn ddiweddar, cafodd ein holl wasanaethau eu heffeithio gan gyfnod o eira a rhew, a oedd yn aros ar lawr am yn hirach o lawer na'r hyn rydym yn gyfarwydd ag ef. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i'n holl gwsmeriaid am eu hamynedd wrth i'n staff ymdrechu i fynd â'r gwasanaethau yn ôl i'w hamserlenni arferol. Rydym yn gobeithio eich bod wedi gweld y diweddariadau aml i'r gwasanaethau ar y wefan hon yn ddefnyddiol.

Yn fuan, byddwn yn meddwl am y gwanwyn ac am gyrchfannau y gellir eu cyrraedd yn rhwydd ar y bws. Rydym yn dechrau cynllunio ein gwibdeithiau ar gyfer 2011, felly bydd mwy o wybodaeth am y rhain yn fuan.

Yn olaf, hoffwn ddymuno'r gorau i chi am 2011; cofiwch y gallwch gael y newyddion diweddaraf am ddatblygiadau drwy ymweld â twitter neu ar facebook.

Kevin Hart - Rheolwr Cyffredinol, Cymru