Mynediad Llawr Isel

Mae gan lawer o'r bysiau yn ein fflyd loriau isel, sy'n hygyrch yn rhwydd ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, ac yn 'gyfeillgar i bygis' sy'n golygu y cewch chi ddod â'ch bygi ar y bws heb orfod ei blygu. Gyda mwy a mwy o arosfannau bysiau'n cael eu haddasu er mwyn bod yn hygyrch, mae'n haws teithio nag erioed o'r blaen.