Bygis

Buggy

Byrddio'r bws

Pan fydd eich bws sy'n 'gyfeillgar i fygis' yn cyrraedd, dylech chi roi pwysau'r bygi ar ei olwynion ôl, symud y bygi ymlaen a gostwng yr olwynion blaen ar y bws. Gallwch ofyn i'r gyrrwr ostwng y gris os bydd angen. Peidiwch  cheisio byrddio pan fydd y gris yn gostwng, achos gallai olwynion eich bygi fynd yn sownd rhwng y gris a'r cwrbyn.

Ar y bws

  1. Sicrhewch fod 'parth bygis' arbennig ar y bws
  2. Rhowch y breciau ymlaen a chadwch afael ar eich bygi bob amser
  3. Peidiwch byth â gadael eich plentyn neu eich bygi heb oruchwyliaeth tra eich bod ar y bws.
  4. Peidiwch â hongian siopa neu fagiau eraill ar eich bygi, gallai orbwyso

Wrth fynd oddi ar y bws

  1. Cyn ceisio mynd oddi ar y bws, sicrhewch nad yw yn y broses o benlinio. Mae hyn er mwyn rhwystro olwynion y bygi rhag mynd yn sownd rhwng gris y bws a'r cwrbyn.
  2. Pwyswch eich bygi yn ôl ychydig ar ei olwynion ôl a'i symud ymlaen nes bod yr olwynion ôl ar ymyl y gris. Gostyngwch eich bygi, gan ei gadw mor wastad â phosibl nes bod yr olwynion yn cyffwrdd â'r llawr.
  3. Cofiwch, gallwch chi ofyn i'r gyrrwr ostwng y llawr i chi.

Mae lle cyfyngedig ar gyfer bygis ar ein bysiau; gall hyn amrywio, yn dibynnu ar y bws, nifer y bygis a maint y bygis. Os oes bygis eisoes ar y bws efallai bydd y gyrrwr yn gofyn i chi blygu eich bygi. Helpwch ni i wneud y daith yn ddiogel ar gyfer pawb a pheidiwch â blocio'r llwybrau gyda'ch bygi.

Ar hyn o bryd, nid yw pob un o'n bysiau'n 'gyfeillgar i fygis', ac os felly, bydd angen i chi blygu eich bygi a'i roi heibio yn y rhesel ar gyfer bagiau. Peidiwch â phoeni, bydd y gyrwyr yn rhoi amser i chi wneud hyn.