Cadeiriau Olwyn

Wheelchair

Fel rhan o'n hymrwymiad i ddarparu teithio hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, mae gan bron pob un o'n bysiau le wedi'i neilltuo ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn; gofynnir i deithwyr eraill ildio'r lle i gadeiriau olwyn.

Pan fydd eich bws llawr isel yn cyrraedd y safle bws gallwch chi ofyn i'r gyrrwr ostwng y gris a/neu'r ramp er mwyn caniatáu i chi fyrddio.

Gofynnwch i'r gyrrwr i'ch cynorthwyo os oes angen help arnoch. Os yw'r bws yn llawn neu os oes defnyddiwr cadair olwyn arall ar y bws, yn anffodus, ni fyddwn yn gallu cario defnyddiwr cadair olwyn arall.

Dylech chi facio eich cadair olwyn i mewn i'r lle wedi'i neilltuo ar y bws (fel eich bod yn wynebu cefn y cerbyd) a rhoi'r breciau ymlaen.

Mae'n rhaid cadw'r llwybrau yn glir bob amser.

Nid oes gan gadeiriau olwyn flaenoriaeth dros fygis, ond er mwyn sicrhau y caiff ein holl gwsmeriaid eu trin yn deg a'u body n cael eu hystyried, gofynnir i gwsmeriaid eraill symud i ran arall y bws er mwyn eich galluogi i fyrddio.

Yn anffodus, os bydd teithiwr arall yn gwrthod symud, bydd angen i chi aros am y bws nesaf.

Ni all bysiau nad oes lloriau isel ganddynt neu fysiau 'Uchder Gris' ddarparu ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn.