Defnyddwyr Bysiau'r DU

Bus Users UK

Mae Defnyddwyr Bysiau'r DU yn cynrychioli teithwyr ar fysiau. Eu nod yw helpu cyfathrebu rhwng defnyddwyr bysiau a'r bobl sy'n darparu eich gwasanaeth. Maent yn trefnu cymorthfeydd i Ddefnyddwyr Bysiau o gwmpas y wlad, yn sefydlu grwpiau lleol o ddefnyddwyr bysiau ac yn ymgyrchu ar ran teithwyr mewn bysiau. Gallwch chi ymuno â Defnyddwyr Bysiau'r DU fel aelod unigol; mae rhagor o fanylion ar www.bususers.org.

Gall Defnyddwyr Bysiau'r DU hefyd helpu os bydd rhywbeth anfoddhaol yn digwydd ar eich taith ar y bws, p'un ai ydych yn aelod neu beidio. Os byddwch yn cael problem ar daith fws, gadewch i ni wybod yn gyntaf. Os nad ydych yn teimlo ein bod wedi'i datrys yn ddigonol i'ch bodloni, cysylltwch â Bus Users UK, gan roi cymaint o fanylion ag y gallwch chi. Byddant yn mynd â phethau ymhellach i chi. Os na allant ei datrys, maent yn bartneriaid gyda'r Corff Apeliadau Bysiau a fydd yn rhoi penderfyniad am eich anhawster.

Swyddog Cymru
Bus Users UK
Blwch Post 1045
Caerdydd
CF11 1JE

Ffôn: 02920 221370

E-bost:wales@bususers.org