Siarter Gofal Cwsmeriaid
Mae First wedi ymrwymo i'r safonau uchaf o ran gwasanaeth i gwsmeriaid. Rydym yn gwerthfawrogi barnau ein cwsmeriaid ac rydym yn croesawu unrhyw ymholiadau neu sylwadau.
Rydym yn addo:
- Bod yn groesawgar, yn gyfeillgar, yn barod ein cymwynas ac yn gwrtais
- Gwrando ar yr hyn rydych yn ei ddweud
- Eich trin yn deg
- Rhoi gwybodaeth ddiweddar, gywir a chlir i chi, a
- Chynnig ystod o ffyrdd i chi gysylltu â ni
Mae'n bwysig eich bod yn Gyfforddus ac yn Ddiogel
Pan fyddwch yn teithio ar fysiau First Cymru, mae hi mor bwysig i ni ag yw i chi eich bod yn gyfforddus ac yn ddiogel.
A wnewch chi ein cynorthwyo fel a ganlyn:
- Peidiwch â siarad â'r gyrrwr pan fydd y cerbyd yn symud, heblaw am mewn argyfwng.
- Dangoswch yn glir ac mewn da bryd pan fyddwch angen mynd ar y bws neu ei adael. Rhowch eich braich allan wrth sefyll wrth yr arhosfan neu canwch y gloch pan fyddwch chi ar y bws.
- Defnyddiwch y gwregysau diogelwch ar gerbydau sydd â gwregysau diogelwch wedi'u gosod.
- Peidiwch â gadael eich sedd nes bod y bws wrth eich arhosfan.
Dywedwch wrthym yr hyn rydych yn ei feddwl
Wrth roi eich adborth i ni, gallwn barhau i wella ein gwasanaethau. Byddem wir wrth ein boddau i gael clywed gennych.
Gallwch ddweud wrthym yr hyn rydych yn ei feddwl fel a ganlyn:
Drwy'r post
Gwasanaethau CwsmeriaidFirst
Heol Gwyrosydd
Penlan
Abertawe SA5 7BN
Ffôn
01792 572255 (0700 - 2200) bob dydd.
E-bost
Cymru.Customerservices@firstgroup.com
Byddwn yn ymateb i'ch ymholiad neu i'ch sylwadau cyn gynted ag y bo modd. Ein nod yw ymateb o fewn deg diwrnod gwaith drwy lythyr neu neges e-bost.
Os na allwn roi ateb llawn i chi o fewn deg diwrnod gwaith, byddwn yn ysgrifennu atoch er mwyn esbonio pam a phryd y gallwch ddisgwyl ateb llawn.
Os nad ydych yn fodlon ar ein hymateb, gallwch chi ysgrifennu at:
Y Rheolwr GyfarwyddwrFirst
Heol Gwyrosydd
Penlan
Abertawe SA5 7BN
Ar ôl iddynt dderbyn eich cwestiwn neu gŵyn, byddant yn ymateb o fewn pum diwrnod gwaith. Os na allwn roi ateb llawn i chi o fewn pum diwrnod gwaith, byddwn yn ysgrifennu atoch er mwyn esbonio pam a phryd y gallwch ddisgwyl ateb llawn.