Panel Cwsmeriaid

Oes gennych chi broblem, sylw neu awgrym ynglŷn â'ch gwasanaeth bws?

Dyna pam rydym wedi sefydlu panel cwsmeriaid ym Mryste - er mwyn darparu cyswllt uniongyrchol rhwng cwsmeriaid a First.

Y nod yw darparu fforwm ar gyfer newid adeiladol a mewnbwn i faterion strategol. Mae hyn yn anelu at arwain i welliannau mewn gwasanaethau bysys yn eich cymuned leol. Nid yw'r Panel Cwsmeriaid wedi ei gynllunio i ddelio â chwynion unigol yn benodol a fydd yn parhau i gael eu datrys gan ein tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid.

Hoffech chi ymuno â'r Panel Cwsmeriaid?

Os hoffech cysylltwch â ni ar buscustomerpanel@firstgroup.com gan roi eich manylion cyswllt a byddwn yn cysylltu â chi.

Sut mae'r Panel Cwsmeriaid yn gweithio?

  • Mae gan y panel nifer o gwsmeriaid (rhwng 8 a 10) sy'n cynrychioli cwsmeriaid eraill sy'n defnyddio gwasanaethau bws penodol.
  • Maent yn cyfarfod bob chwarter gydag uwch reolwyr a chyfarwyddwyr lleol.
  • Dewiswyd pob aelod o'r panel er mwyn sicrhau y byddai trawstoriad eang o'n cwsmeriaid yn cael eu cynrychioli.
  • Mae aelodau unigol y panel cwsmeriaid yn hollol annibynnol o First.

Sut gallwch chi gysylltu â'r Panel Cwsmeriaid?

Gallwch gysylltu ag aelod o'r panel cwsmeriaid yn eich ardal chi drwy neges e-bost neu lythyr. Byddant yn gweithredu ar eich rhan yn un o'n cyfarfodydd chwarterol.

E-bost: buscustomerpanel@firstgroup.com

Ysgrifennwch at:

Customer Panel
Freepost BS8931
Bristol
BS5 ODZ

See the minutes from our latest meeting

Mystery Shopper

Tell us about your journey experience! Download the form below and post it back to us.