Cwestiynau a ofynnir yn aml

Frequently Asked Questions

Rydym yn gwybod bod rhai cwestiynau ynglŷn â'n gwasanaethau a'n tocynnau yn fwy poblogaidd na rhai eraill, felly er mwyn ceisio rhoi atebion cyflym i'r cwsmeriaid ar gyfer yr ymholiadau aml hyn rydym wedi rhestru'r cwestiynau allweddol isod.

Os nad yw eich cwestiwn ar y rhestr, neu os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.

Beth yw'r cyfleusterau ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a theithwyr sydd â bygis?

Gall llawer o'n bysiau gymryd y rhan fwyaf o steiliau cadeiriau olwyn; i gael manylion llawn ewch i'n tudalen mynediad trwy lawr isel neu cysylltwch â'n Llinell Gofal ar 08457 88 11 55 cyn i chi deithio

Hefyd, gallwn gludo bygis ar y rhan fwyaf o'n gwasanaethau, ewch i'n tudalen bygis i gael y manylion llawn.

Sut gallaf dderbyn diweddariadau ynglŷn â'm gwasanaethau bysiau?

Os hoffech chi gael y newyddion diweddaraf am y gwasanaeth, hyrwyddiadau a newidiadau mawr (oherwydd gwaith ar y ffordd, digwyddiadau neu amgylchiadau'r tywydd) cofrestrwch eich manylion gyda ni, a byddwn yn eich diweddaru, drwy negeseuon e-bost, gyda'r newyddion hanfodol diweddaraf.

Rydw i'n defnyddio eich bysiau'n rheolaidd - alla i arbed arian wrth deithio?

Gallwch! Rydym yn cynnig ystod eang o docynnau, sydd oll yn rhoi teithiau diderfyn ar draws ein rhwydwaith bysiau yng Nghymru. Ewch i'n tudalen docynnau i gael rhagor o wybodaeth ac i ddewis y tocyn gorau ar gyfer math eich taith.

Pam na wnaeth y bws gyrraedd yn brydlon?

Rydym yn ceisio darparu gwasanaeth sydd 100% yn ddibynadwy; yn anffodus mae ffactorau y tu hwnt i'n rheolaeth a all arwain at rai bysiau'n cyrraedd yn hwyr. Mae'r ffactorau hyn yn cynnwys gwaith ar y ffordd, gwyriadau, ffyrdd yn cau, traffig trwm ac amgylchiadau tywydd gwael.

Pan fydd problemau mawr gall effeithio ar bob llwybr, nid yn unig y rhai sy'n agos at y broblem. Gall y rhesymau am fysiau'n rhedeg yn hwyr fod ar ochr arall eich tref/dinas neu o ganlyniad i ddigwyddiad cynharach. Rydym yn ystyried traffig oriau brig yn ein hamserlenni, ond yn anffodus, ni allwn gymryd problemau annisgwyl i ystyriaeth.

Rydym yn gwybod ei bod yn rhwystredig pan fydd bws yn cyrraedd yn hwyr. Gallwn eich sicrhau ein bod yn gwneud cymaint ag y gallwn i anfon eich bws atoch yn brydlon - rydym yn rhoi problemau mawr ar ein gwefan ond os oes gennych bryder am eich gwasanaeth cysylltwch â ni a byddwn yn ymchwilio lle bo'n bosibl.

Ar ba oedran mae angen i blant dalu?

Mae plant o dan 5 oed yn teithio am ddim ar ein gwasanaethau, mae plant dros 5 oed yn gymwys i dalu'r pris priodol. I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â'n Llinell Gofal ar 08457 88 11 55.

Talais y pris teithio ond nid oedd y gyrrwr yn gallu rhoi newid i mi. Pam felly?

Mae gan ein gyrwyr gronfa barod gyfyngedig er mwyn rhoi newid - yn anffodus gall hyn gael ei defnyddio i gyd os bydd un neu ddau o'r teithwyr yn talu am brisiau teithio isel gan ddefnyddio arian papur gwerth uchel, yn enwedig ar ddechrau sifft gyrrwr ond byddwn yn osgoi rhoi cronfeydd parod uwch i'n gyrwyr am resymau diogelwch.

Os byddwch fel arfer yn prynu tocyn FirstMonth gan eich gyrrwr, beth am brynu'r un nesaf yn eich GMPTE Travelshop leol? Ewch i'n tudalen Travelshop er mwyn dod o hyd i'n un agosaf oherwydd gall prynu eich tocyn cyn i chi fynd ar y bws leihau'r amser mae'n cymryd i chi fynd ar y bws ac os bydd mwy a mwy o deithwyr yn gwneud hyn dylai amserau mynd ar y bws fod yn gyflymach o lawer.

Pam rydych chi wedi newid fy nhaith/amserlen?

Rydym wrthi'n gyson yn adolygu ein rhwydwaith er mwyn adlewyrchu patrymau teithio a gofynion sy'n newid. Efallai bydd eich taith neu'ch amserlen yn newid oherwydd lleihau galw neu oherwydd y bydd yr adnoddau'n cael mwy o ddefnydd yn rhywle arall ar ein rhwydwaith. Ni fyddwn byth yn newid taith neu amserlen ar fympwy, a byddwn yn ymgynghori ag awdurdodau lleol perthnasol pryd bynnag y bo'n bosibl.

Pam mae'r bws bob amser yn llawn?

Mae gennym ystod eang o fathau o gerbydau a'n nod yw rhoi lle i bawb sy'n dymuno teithio ar bob taith. Rydym yn monitro ein holl wasanaethau a lle bo galw'n bodoli ar gyfer teithiau, ein nod yw eu darparu lle bo'n bosibl.

Rydym yn ceisio cadw ein holl wasanaethau'n brydlon, ond gall oedi, gan gynnwys oedi a achoswyd gan waith ar y ffordd neu gan amgylchiadau gwael ar y ffordd arwain at newid o ran teithwyr yn mynd ar y bws; mwy o bobl yn mynd ar fws hwyrach na'u bws arferol, felly mae'n bosibl y bydd bws sy'n dawel fel arfer yn mynd yn brysur iawn.

Pam na arhosodd eich gyrrwr amdanaf?

Ymddiheurwn os yw'n ymddangos bod y gyrrwr wedi gadael heboch. Mae gyrru bws yn waith anodd ac mae'n debygol y byddai eich gyrrwr eisoes wedi ymrwymo i'r ffordd yr oedd yn symud felly nid oedd yn ddiogel iddynt stopio a/neu dynnu'n ôl i mewn i'r arhosfan. Cofiwch, pan fydd bws yn tynnu allan o arhosfan, mae'n rhaid i'n gyrwyr fod yn ymwybodol o bopeth o'u hamgylch, gan gynnwys y traffig maent yn cyfuno ag ef, felly efallai na fyddant yn eich gweld.

Peidiwch byth â cheisio mynd ar fws sy'n symud, mae hyn yn beryglus iawn ac nid yw werth y risg uchel o gael anaf, yn enwedig oherwydd bod llawer o'n gwasanaeth yn dod yn aml iawn, felly os ydych wedi colli'ch bws bydd un arall yn dod cyn hir.

Pam fyddaf yn gweld bysiau'n dweud 'Mae'n ddrwg gennym, nid yw'r bws yn gweithredu'?

Gall hyn fod am nifer o resymau. Byddwn yn darparu bysiau ychwanegol ar adegau prysur felly efallai byddwch yn gweld bysiau yn mynd at eu mannau cychwyn (neu'n dychwelyd i'r depo ar ddiwedd sifft.) Os yw oedi'n digwydd, efallai byddwn yn anfon bysiau gwag i ben arall taith i sicrhau bod gwasanaeth o hyd i bawb ar hyd y daith. Mae ein bysiau'n cael eu cynnal a'u cadw'n rheolaidd, felly efallai byddwch yn gweld un o'n peirianwyr yn cynnal prawf.