Sut i ddefnyddio'r Bws
Os ydych yn teithio ar y bws ledled y wlad, bydd y canllaw cam wrth gam syml hwn yn eich helpu i wneud eich taith mor hawdd â phosibl.
Os oes unrhyw gwestiynau gennych, cysylltwch â ni.

Cynlluniwch eich taith - Er mwyn cynllunio eich taith, ewch i'r adran cynllunio taith. Dewch o hyd i'r rhif gwasanaeth y mae ei angen arnoch a chaiff yr amserlen ar gyfer eich bws ei gweithio allan i chi. Wedyn cewch chi ei hargraffu ar gyfer y gwasanaeth neu'r arosfannau rydych chi eu hangen yn unig.

Dewiswch docyn - Rydym yn cynnig ystod eang o docynnau sy'n addas ar gyfer gwahanol fathau o deithiau, p'un ai ydych chi'n teithio pob dydd neu unwaith y mis yn unig. Mae manylion ar gael yn ein Hadran docynnau. Gellir prynu tocynnau dydd neu rai o werth is ar y bws gan y gyrrwr. Mae'n well prynu tocynnau tymor cyn i chi deithio ac maen nhw ar gael mewn siopau lleol neu gallwch brynu ar-lein.

Dewch o hyd i'r arhosfan gywir - Caiff rhifau gwasanaeth y bysiau eu harddangos fel arfer ar arwyddion safleoedd bysiau neu ar y panel amserlenni. Gellir arddangos y gwasanaethau gyda'i gilydd, felly gwiriwch yr arwydd ar gyfer eich rhif gwasanaeth. Mae gan bob arhosfan god, drwy anfon neges destun at 84268 byddwch yn derbyn manylion o'r bysiau nesaf sydd i ddod i'r arhosfan. Neu dewch o hyd i'r arhosfan ar www.traveline.org.uk.
Dal eich bws

Gwnewch arwydd i'ch bws stopio - Wrth i'r bws nesáu, gwiriwch rif y daith a'r cyrchfan a arddangosir ar flaen y bws. Codwch eich braich fel arwydd eich bod eisiau i'r bws stopio.

Prynu eich tocyn - Os nad ydych yn sicr pa docyn sydd ei angen arnoch, gofynnwch i'r gyrrwr a fydd yn fodlon rhoi cyngor i chi ar ba docyn sydd orau ar gyfer eich taith. Bydd cael yr arian cywir yn barod hefyd yn helpu i leihau oedi wrth fynd ar y bws.

Pan fyddwch eisiau mynd o'r bws - Pwyswch y gloch unwaith, wrth i chi nesáu at yr arhosfan lle rydych eisiau mynd o'r bws, arhoswch yn eich sedd tan i'r bws stopio. Os byddwch yn ansicr am ble mae'r bws yn aros gofynnwch i'r gyrrwr am help pan fyddwch yn mynd ar y bws.
Mynediad rhwydd, moethusrwydd a diogelwch
Er mwyn ei wneud yn haws i chi fynd ar y bws a dod ohono, gall y rhan fwyaf o fysiau ostwng eu hongiad. Mae lleoedd eistedd arbennig ar gael ar lawer o'n bysiau ar gyfer teithwyr sy'n anabl, yn hŷn neu'n defnyddio bygi. Cofiwch y gall lleoedd eistedd arbennig fynd yn llawn ar adegau prysur y diwrnod.