ftrmetro
Mae ftrmetro wedi cyrraedd Abertawe.
Mae ftrmetro'n gysyniad cyffrous newydd o ran trafnidiaeth gyhoeddus sy'n gwneud teithio'n haws ac yn fwy cyfforddus yn Abertawe. Mae ftrmetro'n hollol weithredol bellach ar strydoedd y ddinas ac mae'n cysylltu Treforys, Canol y Ddinas a Phrifysgol Abertawe/Ysbyty Singleton.
Gwasanaeth cyfleus
- Ffyrdd a lonydd bysiau pwrpasol i gyflymu eich taith
- Mae system signalau traffig blaenoriaethol yn cadw ftrmetro i redeg yn brydlon
- Cewch chi wybodaeth ar deithio wedi'i hanfon yn uniongyrchol at eich ffôn symudol neu at eich cyfrifiadur
- Gwell cyfleusterau a gwybodaeth wrth arosfannau ftrmetro
- Mae sgriniau gwybodaeth ac adloniant yn rhoi'r newyddion diweddaraf i chi am eich taith ar y bws
Gwasanaeth steilus a chyfforddus
- Y cerbydau diweddaraf
- Tu mewn sy'n olau ac yn eang
- Seddau ergonomig cyfforddus
- Aerdymheru
- Mynediad rhwydd ar lawr isel
- Teithiau mwy esmwyth
Y Daith
Nodweddion arbed amser ar y daith
Trac ftrmetro Canol y Ddinas - mae trac 2 ffordd rhwng Stryd y Berllan a'r Ganolfan Ddinesig yn darparu lle pwrpasol ar y ffordd sy'n caniatáu ftrmetro a thrafnidiaeth gyhoeddus arall i fynd trwy ganol y ddinas heb draffig.
Mae ffordd fysiau'r Express yn ffordd 2 ffordd bwrpasol ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus sy'n cael ei rheoli gan glwydi bysiau sy'n caniatáu i ftrmetro osgoi tagfeydd rhwng yr Hafod a chanol y ddinas.
Mae cynlluniau ffyrdd newydd a goleuadau traffig blaenoriaethol wrth gylchfannau Stryd Martin a Chwm Lefel, a ffordd osgoi 2 ffordd i fysiau wrth gylchfan Heol Normandy yn osgoi ciwiau ac yn cadw ftrmetro i symud.
Mae mesurau eraill ar y daith yn cynnwys blaenoriaeth ar gyfer ftrmetro wrth oleuadau traffig a mynediad trwy'r Brifysgol ac Ysbyty Singleton sy'n gyfyngedig ar gyfer traffig arall.
Partneriaeth
Mae ftrmetro yn bartneriaeth rhwng Dinas a Sir Abertawe a First Cymru, sy'n gweithredu'r system drafnidiaeth gyhoeddus newydd hon. Cafodd y gwaith isadeiledd ei ariannu gan Grant Trafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ac yn rhannol gan Raglen Amcan Un Ewrop.