Greyhound

Greyhound

O Abertawe i Gaerdydd mewn tuag awr!

Mae coetsis Greyhound yn gadael y ddwy ddinas hyd at 14 o weithiau'r diwrnod yn ystod yr wythnos. Hyd y daith rhwng y ddwy ddinas yw tuag awr, yn teithio ar yr M4 a hefyd yn galw yn Bridgend Designer Outlet.

Mae tocyn dychwelyd dydd yn costio cyn lleied â £5.50 yn ystod y cyfnod allfrig, gyda gostyngiadau ar gyfer pobl hŷn a myfyrwyr. Fel arall, gallwch brynu eich tocyn ar unrhyw fws lleol First yn ardal Bae Abertawe am £7 i gynnwys eich taith i Ganol Dinas Abertawe.

Gallwch hefyd brynu eich tocyn ar y goets - nid oes angen archebu ymlaen llaw.

Yn aros allan yn hwyrach?

Nawr gallwch chi ddefnyddio eich tocyn ar gyfer dychwelyd ar y trên i Abertawe neu Gaerdydd gyda'r nos gyda First Great Western!

Ar gael ar drenau First Great Western ar ôl 18:45 yn unig.

Mae amodau'n gymwys - gofynnwch am fanylion.

Prisiau cerdded ymlaen

Prynwch eich tocyn ar y goets!

  • Hefyd gallwch brynu eich tocyn brig ar unrhyw wasanaeth bysiau First sy'n mynd i Abertawe o unman yn ardal docynnau Bae Abertawe.

Cyfnodau brig

Ymadawiadau cyn 11:00 o ddydd Llun tan ddydd Gwener.
Dychwelwch unrhyw bryd o fewn mis.

Prisiau brig
Oedolion £7.00 Dychwelyd
Myfyrwyr/Plant £6.00 Dychwelyd
Pobl hŷn* £4.00
Teuluoedd** £15.00 Tocyn dychwelyd dydd

Cyfnod allfrig

Ymadawiadau ar ôl 11:00 o ddydd Llun tan ddydd Gwener a thrwy'r dydd ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.

Prisiau allfrig
Oedolion/Myfyrwyr/Plant £5.50 tocyn dychwelyd dydd
Pobl Hŷn* £2.75 tocyn dychwelyd dydd
Teuluoedd** £12.00 tocyn dychwelyd dydd

*Mae pob tocyn mantais i bobl hŷn yng Nghymru yn ofynnol er mwyn cael y pris ar gyfer pobl hŷn ar y gwasanaeth hwn.

** Gall 2 oedolyn a hyd at 2 o blant neu 1 oedolyn a hyd at 3 o blant deithio ar y tocyn hwn.

Tocynnau Wythnosol, Misol a Blynyddol
Wythnosol £28.00
Misol £85.00
Blynyddol £870.00

Mae tocynnau'n cynnwys teithio lleol diderfyn ar fysiau lleol First.

Sut i archebu eich tocyn

Dewch ac ewch: archebwch gyda'r gyrrwr fel arfer, neu ar gyfer ein prisiau isaf a sedd wedi'i gwarantu archebwch ar-lein ar www.greyhounduk.com***

Dewiswch eich lleoliad, eich cyrchfan, dyddiadau teithio a nifer y teithwyr ac wedyn byddwn yn dangos y seddau sydd ar gael gennym i chi.

Ffoniwch ni ar 0900 096 0000 (Mae galwadau'n costio 49c y funud)
*** a thâl o 50c am archebu lle.