Lleoedd o Ddiddordeb
Gadewch i First ddangos y lleoedd diddorol i chi!
Ffordd wych o weld y pethau diddorol yn ne a gorllewin Cymru ac o'i hamgylch yr haf hwn yw mynd ar y bws. Dim ond eistedd yn ôl ac ymlacio mae'n rhaid i chi ei wneud a gadewch i ni yrru!
O fewn cyrraedd rhwydd o'r holl drefi a dinasoedd lle mae bysiau First yn rhedeg, mae llawer o bethau i'w gweld a'u gwneud. Ar y tudalennau hyn, byddwch yn dod o hyd i wybodaeth am amrywiaeth o leoedd diddorol yn ogystal â manylion am y gwasanaeth bysiau lleol i fynd â chi yno.
Mae teithio ar fws yn fargen wych gyda'n hystod o docynnau FirstDay a FirstWeek, yn ogystal â chynigion gwych ar gyfer teithio fel teulu.