Diwrnodau allan ym Mhen-y-bont ar Ogwr a'r cyffiniau

Porthcawl a Thraeth Coney

Mae gan Borthcawl rai o'r traethau glanaf yn ne Cymru. Enillodd Bae Rest a Bae Trecco Faner Las Ewrop mawr ei chlod yn ogystal â gwobr glan Môr Prydain Daclus. Ewch i'r harbwr, mwynhewch firi a bwrlwm ffair Traeth Coney, ewch am dro ar draws Lock's Common neu ymlwybrwch i lawr y promenâd. Beth bynnag yw eich syniad am ddiwrnod allan, Porthcawl yw'r lle!

Gwybodaeth am Borthcawl a Thraeth Coney
Gwefan www.welcometoporthcawl.co.uk
Gwasanaethau X2, 61, 63, 224

Parc Gwledig Bryngarw

Mae amser yn peidio â bod ar 113 erw Bryngarw, lle dewch chi o hyd i bopeth o goetiroedd brodorol i erddi ffurfiol, o goed egsotig i wlypdiroedd mwsoglyd, o lennyrch diarffordd i borfeydd agored, o lyndir addurnol i afonydd gwyllt.

Gwybodaeth am Barc Gwledig Bryngarw
Gwefan www.bridgend.gov.uk
Gwasanaethau 11, 12 or 13

Y Bontfaen

Mae'r Bontfaen yn dref farchnad lliwgar yng nghanol Bro Morgannwg yn ne Cymru.

Os ydych yn hoffi siopa'n steilus, byddwch yn dwlu ar y Bontfaen! A hithau'n un o'r lleoedd mwyaf ffasiynol i'w hymweld yn y wlad, mae'r Heol Fawr yn cynnwys nifer o siopau ffasiwn bwtîg a siopau teuluol sy'n gwerthu anrhegion, bagiau llaw, gemwaith, nwyddau lledr, esgidiau, hen bethau a chrefftau.

Mae bwyta allan yn y Bontfaen bob amser yn bleserus, boed i chi chwilio am fyrbryd amser cinio, pryd tri chwrs neu de prynhawn. Mae gan y dref ystod fendigedig o fistros, bwytai, tafarndai cwrw go iawn a bariau gwin, sy'n addas ar gyfer pob chwaeth ac mae gan bob un ei gymeriad a'i steil ei hun.

Gwybodaeth am y Bontfaen
Gwefan www.cowbridge.co.uk
Gwasanaethau X2

Bridgend Designer Outlet

Bridgend Designer Outlet yw'r lle delfrydol ar gyfer diwrnod allan i'r teulu oherwydd bod rhywbeth yn digwydd drwy'r amser; megis siop newydd yn agor, digwyddiad hanner tymor am ddim i'r plant, digwyddiadau codi arian dros elusennau, neu ymweliadau arbennig gan enwogion.

Gallwch ddod o hyd i dros 90 i siopau, brandiau dylunwyr a brandiau'r stryd fawr yn Bridgend Designer Outlet, y cyfan â hyd at 60% o ostyngiad o'r pris manwerthu argymelledig bob dydd.

Mae ystod fawr o gyfleusterau ychwanegol - gan gynnwys Gwybodaeth i Ymwelwyr, caffis a bwytai, lle chwarae i blant, ystafelloedd newid i fabanod, siopa di-dreth a siopau sy'n ddiogel i blant.

Gwybodaeth ar Bridgend Designer Outlet
Gwefan www.bridgenddesigneroutlet.com
Gwasanaethau 100, X4 a gwasanaethau aml eraill i ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr ac yn ôl.