Diwrnodau allan yng Nghaerdydd a'r cyffiniau

Castell Caerdydd

Mae Castell Caerdydd wedi'i leoli yng nghanol y ddinas ac mae ganddo hanes sy'n mynd yn ôl bron 2,000 o flynyddoedd. Uchafbwynt y castell yw taith dywys o gwmpas rhandai trawiadol y castell. Cafodd eu creu yn y 19eg ganrif gan y pensaer ecsentrig William Burges ar gyfer Trydydd Ardalydd Bute a oedd yn gyfoethog iawn. Wedi'i gynllunio fel cartref allan o stori tylwyth teg canoloesol, mae'r ystafelloedd llawn lleoedd tân addurnedig, nenfydau wedi'u heuro, gwydr lliw cymhleth ac anifeiliaid cerfiedig a phaentiedig drwyddi draw.

Gwybodaeth am Gastell Caerdydd
Gwefan www.visitcardiff.com
Gwasanaethau 89A/89B, 100, 400, X2

Canolfan Mileniwm Cymru

Agorodd Canolfan Mileniwm Cymru yn 2004 ac mae eisoes wedi sefydlu enw fel un o gyrchfannau celfyddydol a diwylliannol eiconig y byd. Gweledigaeth y Ganolfan yw bod yn dirnod a chanolfan ddiwylliannol sydd ag arwyddocâd rhyngwladol ar gyfer y celfyddydau perfformiadol, sy'n enwog am ysbrydoliaeth, rhagoriaeth ac arweinyddiaeth.

Mae'r Ganolfan yn un o ganolfannau'r celfyddydau perfformiadol mwyaf unigryw a bywiog yn Ewrop. Edrychwch y tu hwnt i'r olygfa allanol syfrdanol, sy'n ymddangos yn Torchwood a Dr Who, a dewch chi ar draws awyrgylch byrlymus sy'n peri i'n hymwelwyr eisiau dychwelyd dro ar ôl tro.

Sylwer fod Canolfan Mileniwm Cymru wedi'i lleoli ym Mae Caerdydd, wedi'i gwasanaethu gan wasanaethau Bws Caerdydd a Threnau Arriva Cymru o Heol y Frenhines.

Gwybodaeth am Ganolfan Mileniwm Cymru
Gwefan www.wmc.org.uk
Gwasanaethau 89A/89B, 100, 400, X2

Siopa yng Nghaerdydd

Prifddinas ar gyfer siopa yw Caerdydd, a chyda chyfuniad o frandiau dylunwyr, enwau'r stryd fawr yn ogystal â siopau mwy unigol ac annibynnol, mae rhywbeth i bawb.

Wedi'i henwi'n ddiweddar fel y 6ed cyrchfan siopa gorau yn y DU, mae gan Gaerdydd y sbectrwm siopa cyfan, gydag arcedau Edwardaidd a Fictoraidd swynol a chanolfannau siopa hynod o fodern. A phan fyddwch chi wedi cael digon o therapi siopa, mae digonedd o gaffis, bwytai a barrau i aros ynddynt er mwyn ymlacio.

Gwybodaeth am Siopa yng Nghaerdydd
Gwefan www.visitcardiff.com
Gwasanaethau 89A/89B, 100, 400, X2

Stadiwm y Mileniwm

Ers iddo agor ym mis Mehefin 1999, mae Stadiwm y Mileniwm wedi croesawu, ar gyfartaledd, dros 1.3 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn. A chanddo'r to cyntaf yn y DU y gellir ei dynnu'n ôl, mae'r lleoliad o flaen y gad fel lleoliad amlbwrpas, amlwedd.

Mae Stadiwm y Mileniwm wedi cynnal gemau o ddwy gystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd, gan gynnwys y rownd derfynol ym 1999, wedi bod yn dyst i ddau lwyddiant i Gymru yng Nghamp Lawn cystadleuaeth RBS y Chwe Gwlad, wedi llwyfannu chwe rownd derfynol arddangosol Cwpan yr FA ac wedi croesawu perfformwyr mawr y busnes cerddoriaeth gyda thoreth o gyngherddau a digwyddiadau chwaraeon modur mawr ar ei CV.

Mae'r Stadiwm wedi'i sefydlu fel lleoliad mae'n rhaid chwarae ynddo ac ymweld ag ef o'r safon orau yn y byd ac mae wedi bod yn gartref i bum corff chwaraeon mawr dros yr wyth mlynedd diwethaf.

Gwybodaeth am Stadiwm y Mileniwm
Gwefan www.millenniumstadium.com
Gwasanaethau 89A/89B, 100, 400, X2

Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Wedi'i lleoli yng nghanol canolfan ddinesig goeth Caerdydd, heddiw mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cynnwys casgliadau celf, astudiaethau natur, archaeoleg a daeareg genedlaethol Cymru yn ogystal ag arddangosfeydd mawr teithio a thros dro. Os hoffech chi sefyll a syllu, mae digon i blesio eich llygaid - o baentiadau'r Argraffiadwyr i ddeinosoriaid anferth. Er mwyn fforio gallwch godi ystod o lwybrau'r oriel er mwyn eich tywys o gwmpas yr Amgueddfa. Mae gwrthrychau pob dydd ac arteffactau hardd yn dweud hanesion pobl yng Nghymru ac yn archwilio ein cysylltiadau â'r gorffennol.

Ewch ar daith anhygoel yn Esblygiad Cymru o ddechrau amser hyd at heddiw. Mae'r stori'n dechrau yn y gofod gyda'r Glec Fawr ac yn mynd â chi ar daith 4,600 miliwn o flynyddoedd, yn dod â chi wyneb yn wyneb â deinosoriaid a mamothiaid gwlanog. Darganfyddwch sut esblygodd bywyd yng Nghymru a pha ddeinosoriaid a grwydrodd y tir.

Gwybodaeth am Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Gwefan www.museumwales.ac.uk
Gwasanaethau 89A/89B, 100, 400, X2