Diwrnodau Allan yng Nghastell Nedd a Phort Talbot

Castell Nedd

Wedi'i leoli ar ymylon canol tref Castell Nedd, cafodd y Castell ei adeiladu tua 1180 ar safle castell cynharach. Yn lleoliad llawer o frwydrau, mae'n fwyaf tebygol y cafodd ei ddinistrio yn y 13eg ganrif a'r 14eg ganrif, a chafodd ei ailadeiladu bob tro. Gallwch weld rhan o'r porthdy dau dŵr ar yr ochr orllewinol, y caeadle hirgrwn wedi'i godi i ddwyrain y porthdy, rhan o'r llenfur, stwmp un o'r ddau dŵr crwn gwreiddiol ymestynnol, rhes o risiau o flaen y porthdy a blaenau a bwa'r porthdy o'r 14eg ganrif.

Gwybodaeth am Gastell Nedd
Gwasanaethau Pob gwasanaeth i Gastell Nedd, Gerddi Fictoria.

Mynachlog Nedd

Adfeilion mynachlog Sistersaidd trawiadol sydd, i raddau helaeth, yn gyflawn, ac sydd wedi goroesi canrifoedd o ddiwydiannu, gan gynnwys gwaith copr gynt wedi'i adeiladu ar y tiroedd. Ar agor bob dydd o 10:00 tan 16:00.

Gwybodaeth am Fynachlog Nedd
Gwefan www.baytrans.org.uk
Gwasanaethau 59, 158

Cilfrew, Taith Gerdded Craig Gwladus

Gyda golygfeydd godidog dros Gwm Nedd isaf, mae gan Graig Gwladus rwydwaith o lwybrau gyda nodwyr llwybr drwy olygfeydd ysblennydd.

Gwybodaeth am Gilfrew, Taith Gerdded Craig Gwladus
Gwefan www.baytrans.org.uk
Gwasanaethau 154, 158

Rhaeadrau Aberdulais

Eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol mewn cwm cul, troellog - rhaeadrau a ysbrydolodd Turner, gwaith tunplat gynt, chwarel a melin flawd mewn lleoliad golygfaol. Ar agor yn ddyddiol (penwythnosau yn y gaeaf). Ffoniwch 01639 636674

Gwybodaeth am Raeadrau Aberdulais
Gwefan www.baytrans.org.uk
Gwasanaethau 154, 158

Amgueddfa Lofaol Cefn Coed, Creunant

Ar un adeg dyma un o gloddfeydd glo carreg dyfnaf y byd; erbyn hyn mae'n amgueddfa er cof am y glowyr a fu'n gweithio yno am genedlaethau. Mae arddangosion yn cynnwys peiriant weindio, oriel ffug, offer, siop yr amgueddfa. Ar agor bob dydd tan ddiwedd mis Hydref o 1030 tan 1700.

Gwybodaeth am Amgueddfa Lofaol Cefn Coed, Creunant
Gwefan www.baytrans.org.uk
Gwasanaethau 158

Beiciau cwad Cwm Nedd

Mae Beiciau Cwad a Saethyddiaeth Cwm Dulais yn darparu antur a gwefr llywio'r Beiciau Cwad 250cc diweddaraf drwy 175 erw o fryniau a choetiroedd. Ceir Beiciau Cwad Iau 70cc awtomatig ar gyfer plant 8-15 oed, ar y trac iau neu gyda'u rhieni ar daith gyda hyfforddwr.

Gwybodaeth am Feiciau Cwad Cwm Dulais
Gwefan www.dulaisvalley-quads.co.uk
Gwasanaethau 158

Ffordd Rufeinig Sarn Helen

Sarn Helen yw un o'r darnau o Ffordd Rufeinig sydd wedi'i gadw orau yng Nghymru; mae hyn yn cyfeirio at y darn o'r daith gerdded rhwng Banwen ac Aberdulais.

Gwybodaeth am Ffordd Rufeinig Sarn Helen
Gwefan www.baytrans.org.uk
Gwasanaethau 158

Taith Gerdded Camlas Y Clun

Mae Camlas Nedd yn ffurfio coridor gwyrdd, hardd a rhodfa rwydd ar hyd ei llwybr tynnu, sy'n gyfoethog o ran bywyd gwyllt, yn hygyrch ac yn agos at daith bysiau X5. Taith gerdded o'r Clun i Fasn Aberdulais gyda'i draphont ddŵr, loc, pont sgiw, a nodweddion hanes cynnar y camlesi.

Gwybodaeth am Daith Gerdded Camlas y Clun
Gwefan www.baytrans.org.uk
Gwasanaethau X5

Rhaeadrau Melin-cwrt

Rhaeadr odidog, 25 metr o uchder, a gafodd ei pheintio un tro gan Turner, gyda gwarchodfa natur 12 erw ddiddorol iawn wrth ochr ceunant coediog cyfoethog sydd â choed derw a bedw, ceirios gwyllt, clychau'r gog, rhedyn prin, sigl-di-gwt, telor y coed a gwybedog. Taith gerdded 20 munud o bentref Melin-cwrt; mae esgidiau cadarn yn hanfodol.

Gwybodaeth am Raeadrau Melin-cwrt
Gwefan www.baytrans.org.uk
Gwasanaethau X5

Taith Gerdded Camlas Resolfen

Mae rhannau uchaf Camlas Nedd ymhlith y rhai mwyaf diddorol a gallwch fwynhau taith gerdded bleserus wrth ochr Ystad Rheola a golygfeydd ardderchog i fyny ac i lawr Cwm Nedd hardd.

Gwybodaeth am Daith Gerdded Camlas Resolfen
Gwefan www.baytrans.org.uk
Gwasanaethau X5

Taith Gerdded Rhaeadrau Pontneddfechan

Un o leoedd cerdded mwyaf poblogaidd yr ardal gyda cheunentydd a rhaeadrau.

Gwybodaeth am Daith Gerdded Rhaeadrau Pontneddfechan
Gwefan www.baytrans.org.uk
Gwasanaethau X5

Glan Môr Aberafan

Mae dwy filltir o draeth, promenâd a chyfleusterau chwaraeon a hamdden Lido Afan wedi gwneud Aberafan yn gyrchfan poblogaidd i ymwelwyr dydd dros y blynyddoedd.

Gwybodaeth am Lan Môr Aberafan
Gwefan www.baytrans.org.uk
Gwasanaethau X1, X3, 8

Ffordd Coed Morgannwg

Y rhan o Fryn i Barc Margam. Mae hyn ond yn rhan o daith gerdded 36 milltir Coed Morgannwg.

Gwybodaeth am Ffordd Coed Morgannwg
Gwefan www.baytrans.org.uk
Gwasanaethau X3

Parc Margam, Abaty Margam a'r Orendy

Un o hoff barciau gwledig Cymru - dros 100 erw o barcdir a gerddi godidog ac Orendy o'r 18fed ganrif. Mae teithiau cerdded, lle chwarae i blant, rheilffordd lein fach gul, a chaffi. Ar agor bob dydd yn ystod yr haf o 1000 i 1700.

Gwybodaeth am Barc Margam, Abaty Margam a'r Orendy
Gwefan www.baytrans.org.uk
Gwasanaethau X1, X4, 224

Parc Coedwig Afan

Mae Parc Coedwig Afan yn cynnwys deg o deithiau cerdded gyda nodwyr llwybr ac yn swyddogol mae'n lleoliad i un o lwybrau beicio mynydd gorau Prydain. Gwrandewch am gnocio cnocell y coed wrth i chi gerdded trwy'r coetiroedd aeddfed. Hefyd yng nghanolfan yr ymwelwyr mae Amgueddfa Glowyr De Cymru.

Gwybodaeth am Barc Coedwig Afan
Gwefan www.baytrans.org.uk
Gwasanaethau 23, 159

Pyllau Glyncorrwg

Cyfres o byllau hardd wedi'u tirlunio ar safle pwll glo gynt (a gaeodd ym 1970), sydd erbyn hyn yn hafan ar gyfer bywyd gwyllt o fewn y Parc Coedwig - teithiau cerdded hamddenol wrth ochr y llyn, pysgota, teithiau cerdded a llwybrau â nodwyr llwybr, llwybrau beiciau mynydd (gellir llogi beiciau) canolfan ymwelwyr a chaffi. Ar agor bob dydd.

Gwybodaeth am Byllau Glyncorrwg
Gwefan www.baytrans.org.uk
Gwasanaethau 23, 159

Y Cymer, teithiau cerdded lleol, hyd canolig

Mae cerdded ym Mharc Coedwig Afan yn bleser, gyda llwybrau rhwydd, wedi'u marcio'n dda a golygfeydd trawiadol dros goedwigoedd a'r afon. Cadwch olwg am y Goedwig Kanji enwog ar y ffordd a cheisiwch benderfynu i ble aeth yr holl reilffyrdd o'r Cymer.

Gwybodaeth am Y Cymer, teithiau cerdded lleol, hyd canolig
Gwefan www.baytrans.org.uk
Gwasanaethau 23, 159