Diwrnodau allan yn Sir Benfro

Maenorbŷr

Pentref bach glan môr yw Maenorbŷr sy'n nodedig am ei draeth a'i gastell canoloesol sydd wedi ei gadw'n dda. Mae'r traeth yn boblogaidd i syrfewyr ac i bobl sydd ar eu gwyliau a gellir gweld golygfeydd ysblennydd o dyrau'r castell.

Gwybodaeth am Faenorbŷr
Gwefan www.visitpembrokeshire.com
Gwasanaethau 349

Marina Aberdaugleddau

Mae hen ardal y dociau wedi cael ei hailwampio i ffurfio marina mawr, ac o'i gwmpas mae'r amgueddfa, oriel wrth ochr y dociau, bwytai a barrau. Mae teithiau cwch ac adloniant byw byw i gyd yn ychwanegu at yr achlysur.

Gwybodaeth am Farina Aberdaugleddau
Gwefan www.visitpembrokeshire.com
Gwasanaethau 302

Castell Penfro

Mae Castell Penfro wedi'i gadw'n dda ac mae'n olygfa fawreddog yng nghanol y dref. Yn dyddio yn ôl i'r 13eg ganrif, prif nodwedd y castell yw'r Tŵr Mawr, sy'n 75 troedfedd o uchder.Ganed Harri VII yma ac mae'r arddangosfeydd yn coffáu hyn ac yn datgelu rôl bwysig y castell yn ein treftadaeth genedlaethol.

Gwybodaeth am Gastell Penfro
Gwefan www.visitpembrokeshire.com
Gwasanaethau 349

Dinbych-y-pysgod

Tref gyrchfan boblogaidd iawn yn nodedig am ei phorthladd a'i thraethau tywodlyd. Mae cerdded o gwmpas yr hen dref bob amser yn dadlennu rhywbeth diddorol, ac mae amrywiaeth o siopau a chaffis a marchnad leol i gyd yn ychwanegu at awyrgylch y dref.

Gwybodaeth am Gastell Penfro
Gwefan www.visitpembrokeshire.com
Gwasanaethau 349

Tŷ'r Masnachwr Tuduraidd, Dinbych-y-pysgod

Wedi'i berchnogi a'i reoli gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, tŷ enwog y Masnachwr Tuduraidd o'r 15fed ganrif yw preswylfan hynaf Dinbych-y pysgod. Mae'n sefyll ar Quay Hill, rhwng y porthladd a Tudor Square.

Gwybodaeth am Dŷ'r Masnachwr Tuduraidd, Dinbych-y-pysgod
Gwefan www.visitpembrokeshire.com
Gwasanaethau 349