Diwrnodau Allan ym Mae Abertawe

Pentref Ystumllwynarth

Mae Ystumllwynarth - a'r daith gerdded arfordirol tuag at Southend - yn gyn bentref glan môr Fictoraidd sy'n llawn cymeriad ac yn haeddu ei enw fel 'Porth i Fro Gŵyr'. Yma mae rhai o'r bwytai gorau yn Abertawe a dau o barlyrau hufen iâ mwyaf poblogaidd yr ardal; parlyrau Joe's a Verdi's lle gallwch chi eistedd a mwynhau'r olygfa drawiadol ar draws y bae. Porwch mewn rhai o'r orielau celf a siopau crefftau sydd yn y pentref.

Gwybodaeth am Bentref Ystumllwynarth
Gwefan www.visitswanseabay.com
Gwasanaethau 1 (Summer Only), 2, 2A, 2B, 3, 3A

Bae Bracelet a Pier y Mwmbwls

Mae'r pier Fictoraidd 900 troedfedd yn dirnod adnabyddus gyda'r arcêd ddifyrion a chaffi cysylltiedig. Mae Bae Bracelet yn gildraeth bach gyda cherigos a phyllau glan môr. Gerllaw mae Gwarchodfa Natur Bryn y Mwmbwls.

Gwybodaeth am Fae Bracelet a Pier y Mwmbwls
Gwefan www.visitswanseabay.com
Gwasanaethau 1 (Summer Only), 2B

Bae Langland

Mae Langland yn draeth syrffio poblogaidd wedi'i nodweddu gan resi o chalets. Mae'r traeth yn barth di-gŵn yn yr haf ac mae'n boblogaidd iawn gyda theuluoedd.

Gwybodaeth am Fae Langland
Gwefan www.visitswanseabay.com
Gwasanaethau 2, 2B ac wedyn taith gerdded o Gornel Langland

Bae Caswell

Mae Bae Caswell yn boblogaidd a bob amser yn addas ar gyfer diwrnod allan i'r teulu ac mae wedi ei leoli mewn bae hyfryd. Mae'r traeth, sydd wedi ennill Baner Las Ewrop, yn ddelfrydol ar gyfer nofio neu syrffio ac mae'n barth di-gŵn yn yr haf. Mae'r cyfleusterau'n cynnwys llogi cadeiriau cynfas, toiledau, siop traeth a chaffi ac achubwyr bywydau ar anterth y tymor.

Gwybodaeth am Fae Caswell
Gwefan www.visitswanseabay.com
Gwasanaethau 1 (Summer Only), 2C

Lido Blackpill

Hanner ffordd ar hyd ehangylch 5 milltir Bae Abertawe mae Blackpill. Mae'r lido a gafodd ei ailwampio yn ddiweddar yn boblogaidd iawn gyda theuluoedd ifanc ar anterth yr haf. Mae caffi'r 'Junction' cyfagos yn darparu lluniaeth a groesewir yn fawr.

Gwybodaeth am Lido Blackpill
Gwefan www.visitswanseabay.com
Gwasanaethau 1 (Summer Only), 2, 3, 14, 37

Clogwyni Pennard

Mae Pennard yn lleoliad da ar gyfer darganfod clogwyni a thraethau de Gŵyr. Mae llawer o'r tir yn yr ardal hon yn perthyn i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. O derfynfa'r bysiau yng Nghlogwyni Pennard ceir teithiau cerdded rhwydd ar draws pennau'r clogwyni i un cyfeiriad neu'r llall, sy'n rhoi golygfeydd panoramig ar draws Bae Oxwich a Môr Hafren. Mae hefyd yn bosibl cerdded ar hyd y clogwyni i Gastell Pennard sy'n edrych dros Gwm Pennard a Bae'r Tri Chlogwyn. Mae Bae Pobbles, a gyrhaeddir drwy fynd ar hyd llwybr troed cyhoeddus yn gildraeth poblogaidd ond yn ddiarffordd gyda thraeth tywodlyd.

Gwybodaeth am Glogwyni Pennard
Gwefan www.baytrans.org.uk
Gwasanaethau 14

Cwm Llandeilo Ferwallt

Mae Llandeilo Ferwallt yn fan aros cyfleus er mwyn cael cinio yn un o'r tafarndai lleol; mae'r Joiners Arms yn gweini detholiad o gwrw traddodiadol sy'n cael ei fragu yn y fan a'r lle.

Gwybodaeth am Gwm Llandeilo Ferwallt
Gwefan www.baytrans.org.uk
Gwasanaethau 14

Cwm y Clun

Mae'r fynedfa i Erddi'r Clun yn Blackpill, y tu ôl i dafarn y 'Woodman'. Mae'n nodedig am ei arddangosfeydd blodau ac amgylchedd tawel.

Gwybodaeth am Gwm y Clun
Gwefan www.visitswanseabay.com
Gwasanaethau 2, 3, 14, 37

Fferm y Clun

Mae Canolfan Fferm y Clun wedi'i lleoli ar un o'r saith bryn sy'n edrych dros ehangylch mawreddog Bae Abertawe. Rhowch gynnig ar farchogaeth, saethyddiaeth, dringo, canŵio a'n henwog Challenge Valley - y cwrs ymosod mwyaf mwdlyd yn y byd!

Gwybodaeth am Fferm y Clun
Gwefan www.visitswanseabay.com
Gwasanaethau 14

Bae Oxwich

Y tu ôl i draeth eang Bae Oxwich mae twyni tywod a choedwigoedd dyfnion. Saif Eglwys Sant Illtud mewn man diddorol ar ochr orllewinol y bae. Horton. Pentref back prydferth yn ne Gŵyr yw Horton. Saif ar fryn serth sy'n ymestyn i lawr at draeth hyfryd. Mae'n rhannu'r bae â Phort Einon, sy'n sefyll ar yr ochr orllewinol.

Bae Oxwich y Clun
Gwefan www.baytrans.org.uk
Gwasanaethau 118

Bae Port Einon

Mae'n debygol mai Bae Port Einon yw traeth mwyaf poblogaidd Gŵyr ac mae ganddo statws Baner Las fel mesur o'i lendid. Mae yno siopau a thair milltir o draeth euraidd gyda thwyni y tu cefn iddo.

Bae Port Einon y Clun
Gwefan www.baytrans.org.uk
Gwasanaethau 118

Bae Rhosili

Mae Bae Rhosili, sy'n ymestyn i'r gogledd tuag at Langenydd, yn enwog fel man syrffio. Mae paragleidio'n digwydd yno hefyd o Ros Rhosili. Mae'r daith gerdded tuag at Ben Pyrod yn cynnig golygfeydd godidog - dyma bwynt mwyaf gorllewinol Gŵyr. Yn ddiweddar, rhestrwyd Rhosili gan y Daily Mail yn un o draethau gorau'r byd, a dyma'r unig draeth yn y DU i gael ei enwi.

Bae Rhosili y Clun
Gwefan www.baytrans.org.uk
Gwasanaethau 118

Llangenydd

Mae Llangenydd yn gyrchfan poblogaidd i deuluoedd a syrffwyr (mae yno siop syrffio). Hyd yn oed cyn i syrffio ddod yn boblogaidd, y môr oedd canolbwynt y pentref, a saif wrth droed y bryniau. Mae llawer o chwedlau'n ymwneud â llongddrylliadau a smyglo yn gysylltiedig â Llangenydd.

Llangenydd y Clun
Gwefan www.baytrans.org.uk
Gwasanaethau 115, 116

Gower Heritage Centre

The Centre is a visitor attraction and rural life museum based around a working 12th century water-mill. There are craft shops, craft activities, old fashioned games arcade, sandpit area,adventure playground, soft play area, tractor play area, an animal farm with chicks, ducks, baby rabbits, guinea pigs, goats, sheep, lambs and horses and are home to La Charrette - Wales' smallest cinema. There is a full calendar of events for 2011 with fun and activities for all the family. Discounted admission for visitors arriving by bus.

Gower Heritage Centre Information
Website www.gowerheritagecentre.co.uk
Services 118