Diwrnodau allan yn Ninas Abertawe
Cyfadeilad hamdden newydd ffantastig Abertawe
Mae'r cyfadeilad hamdden yn dod â byd hamdden hollol newydd i Abertawe. Mae wedi'i rannu'n dri pharth, Craidd, Ymyl a Brig ac mae'r atyniad ffantastig hwn yn ddiwrnod allan gwych ar gyfer oedolion a phlant fel ei gilydd!
Yr Ymyl yw parc dŵr dan do mwyaf Cymru, gyda rhwydwaith o byllau, reidiau a llithrennau gan gynnwys y Masterblaster, y reid sglefrio dŵr wefreiddiol, a'r Boardrider, profiad syrffio dan do - sy'n siŵr o beri i'r adrenalin bwmpio. I gael reid fwy ymlaciol, ewch ar yr afon araf, mwynhewch y tonnau yn y pwll neu ewch i sblasio yn y pwll a'r lagŵn rhyngweithiol (sydd hefyd yn addas ar gyfer plant bach).
Mae'r Craidd yn cynnwys Man Chwarae ryngweithiol pedwar llawr a fydd yn adlonni anturiaethwyr ifanc am oriau yn ogystal â wal ddringo 32 troedfedd i herio dringwyr o bob oedran. Gyda rhaglen sy'n llawn dop o weithgareddau a gynhelir bob dydd mae bob amser rywbeth ar gael ar gyfer pob oedran a gallu.
Mae iechyd a ffitrwydd yn cyrraedd lefel newydd yn Y Brig, sy'n gartref i'r gampfa ddiweddaraf sydd â golygfeydd trawiadol dros orwel y ddinas a'r Sba moethus lle gallwch faldodi eich hun gyda'r cynhyrchion a'r triniaethau harddwch diweddaraf.
Neu, beth am alw i mewn i gael cwpanaid gwych o goffi…ac os rydych chi'n chwilio am rywle gwahanol i rannu'r newyddion diweddaraf gyda ffrindiau neu wobrwyo'r teulu gyda phryd o fwyd cartref blasus, dewch i fwynhau'r danteithion yn un o'n bwytai - a gadewch i ni wneud eich diwrnod gwych yn well.
| Gwefan | www.thelcswansea.co.uk |
|---|---|
| Gwasanaethau | O fewn pellter cerdded i wasanaethau bysiau i Ganol Dinas Abertawe. |
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Sut bynnag yw'r tywydd, mae bob amser rywbeth i adlonni ymwelwyr i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe. Mae'r amgueddfa arobryn hefyd yn gartref i arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn.
| Gwefan | www.museumwales.ac.uk/en/swansea |
|---|
Parc Cwmdonkin ac Uplands Dylan Thomas
Roedd y parc yn bwysig iawn i Dylan pan oedd yn tyfu i fyny yn Uplands. Wrth fynd i mewn i'r Parc, gallwch droi i'r chwith neu i'r dde; bydd y naill ffordd neu'r llall yn dod â chi i gysgodfa drionglog, a gafodd ei chodi fel cofeb i Dylan. Ewch ymlaen i fyny'r llwybr, cyn troi i'r chwith, ar rodfa eang. Ar y chwith mae'r ffynnon yfed dŵr haearn bwrw, yn anffodus heb gwpan yfed tun fel y disgrifiodd Dylan bellach. Ewch yn ôl i'r ffynnon, ac ewch i fyny'r bryn, heibio'r cwt a gadewch y parc drwy'r giât uchaf, trowch i'r dde a cherddwch ymlaen i'r troad cyntaf ar y dde, sef Cwmdonkin Drive. Rhif 5 oedd tŷ Dylan Thomas - cafodd y tŷ ei adnewyddu i'w gyflwr gwreiddiol pan gafodd ei brynu fel tŷ newydd ym 1914. Ers 27 Hydref 2008 (94fed pen-blwydd Dylan) mae'r tŷ ar gael i'w logi fel profiad gwyliau â thema - bydd papur newyddion o'r cyfnod yno i chi, ond dim ffôn, dim teledu a dim radio!
| Gwefan | www.5cwmdonkindrive.com |
|---|---|
| Gwasanaethau | 19, 20, 21, 22 |
Ffatri Siocled
Mae teithiau tywys o'r ffatri yn cael eu cynnal gan Cocoa y clown, sy'n sicrhau bod pob ymweliad a wneir yn brofiad siocledaidd iawn. Caiff grwpiau eu tywys o gwmpas y ffatri a dangosir iddynt sut mae gwneud y gwahanol fathau o siocled, gyda digonedd o samplu ar y ffordd!
| Gwefan | www.thechocfactory.com |
|---|---|
| Gwasanaethau | 110, 111, 112 to Fforestfach Estate, then a short walk. |
Bae Abertawe yn y 1940au
Darganfyddwch drosoch eich hun sut roedd bywyd ar gyfer sifiliaid ar y 'Ffrynt Cartref' yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Profwch olygfeydd a synau cyrch awyr. Dysgwch sut roedd pobl yn byw yn ystod y cyfnod hwnnw a beth allech chi ei fwyta gyda dognau wythnos! Mae ffilmiau byr ac arddangosfeydd o ddeunyddiau o'r cyfnod yn helpu i ddod â chyfnod dros 60 o flynyddoedd yn ôl yn fyw, pan roedd rhaid i bawb gario mwgwd nwy a cherdyn adnabod. Allech chi oroesi ar ddognau wythnos nodweddiadol?
| Gwefan | www.1940sswanseabay.co.uk |
|---|---|
| Gwasanaethau | 158 |
Pwll Cenedlaethol Cymru
Mae Pwll Cenedlaethol Cymru'n gyfleuster ardderchog sydd hefyd ar gael i aelodau'r cyhoedd o bob oedran a gallu.
Yn ogystal â nofio i'r teulu a nofio mewn lonydd, mae gan Bwll Cenedlaethol Cymru ystod lawn o ddosbarthiadau a gweithgareddau iechyd a ffitrwydd mewn awyrgylch ymlaciedig a chyfeillgar - mae'n fwy na phwll nofio yn unig!
| Gwefan | www.walesnationalpoolswansea.co.uk |
|---|---|
| Gwasanaethau | 2, 2A, 3, 3A, 4, 14 |
Stadiwm Liberty
Stadiwm Liberty, Abertawe, yw'r lleoliad pennaf ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau yn ne-orllewin Cymru. Mae'r stadiwm hefyd yn gartref i Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe a thîm rygbi rhanbarthol y Gweilch.
| Gwefan | www.liberty-stadium.com |
|---|---|
| Gwasanaethau | 4, 4A, 120, 121, 159, X25 |
Plantasia, Parc Tawe
Byd egsotig planhigion ac anifeiliaid Abertawe. Dewch i fforio yn ein hafan drofannol unigryw o blanhigion ac anifeiliaid bendigedig yng nghanol y ddinas. O bryfed, ymlusgiaid, pysgod a mwncïod i blanhigion banana, planhigion afal pîn, cacti pigog a bambŵ anferth - mae gan Plantasia y cyfan, ac mae'n berffaith ar gyfer diwrnod allan unigryw i'r teulu, sut bynnag yw'r tywydd!
| Gwefan | www.plantasia.org |
|---|---|
| Gwasanaethau | Pob gwasanaeth i Ganol Dinas Abertawe |
Canolfan Dylan Thomas
Mae Canolfan Dylan Thomas yn y Rhan Forwrol ger amgueddfeydd Abertawe ac mae ganddi fwyty ardderchog. Mae ar agor o 10am tan 4.30pm, saith niwrnod yr wythnos ac yn dathlu Dylan Thomas, bardd mwyaf enwog Abertawe.
Mae gan y ganolfan arddangosfa barhaol am Dylan Thomas a'i fywyd, yn ogystal â chaffi clyd sy'n llawn llyfrau, posteri a phethau cofiadwy. Mae'r ganolfan hefyd yn gartref i lawer o ddigwyddiadau llenyddol drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys yr Ŵyl Dylan Thomas flynyddol yn ystod mis Hydref a mis Tachwedd.
| Gwefan | www.swansea.gov.uk/dtc |
|---|---|
| Gwasanaethau | O fewn pellter cerdded i'r gwasanaethau i Ganol Dinas Abertawe. |
Castell Abertawe
Yn fuan bydd ymwelwyr yn cael crwydro o gwmpas Castell Abertawe am y tro cyntaf ers degawdau. Diolch i gyllid werth £165,000 gan Lywodraeth y Cynulliad a Cadw, bydd gwaith yn dechrau'n fuan ar glirio malurion o lefel llawr gwaelod yr atyniad hanesyddol er mwyn galluogi mynediad i ymwelwyr.
Mae Castell Abertawe yn dyddio o ddechrau'r 12fed ganrif a chydnabyddir yr adfeilion sy'n goroesi a'r lleoedd gwyrdd gyda'i gilydd fel heneb gofrestredig.
Mae rhai o adfeilion yr adeilad yn cynnwys tŵr hanesyddol gyda golygfeydd dros ganol y ddinas a'r arfordir, ond cafodd peth o'r llawr gwaelod sy'n arwain ato ei guddio gan bridd dros gyfnod o amser. Bellach mae'r penseiri Feilden Clegg Bradley yn llunio cynllun datblygu ar ran Cyngor Abertawe a'r Cynulliad i archwilio agor yr atyniad i'r cyhoedd unwaith eto a gwneud y gorau o'r castell fel nodwedd dwristiaeth, fasnachol ac addysgol.
| Gwefan | www.castlewales.com/swansea.html |
|---|---|
| Gwasanaethau | O fewn pellter cerdded i'r gwasanaethau i Ganol Dinas Abertawe. |
Amgueddfa Fysiau Abertawe
Wedi'i gweithredu gan Ymddiriedolaeth Diogelu Trafnidiaeth De Cymru, Mae Amgueddfa Fysiau Abertawe yn atgyweirio, yn diogelu ac yn arddangos, ar y safle ac mewn sioeau, fysiau cwmnïau trafnidiaeth gyhoeddus De a Gorllewin Cymru. Mae'r casgliad nodedig yn cynnwys bysiau o Drafnidiaeth De Cymru (SWT), ei gymdeithion a chwmnïau eraill, gan gynnwys United Welsh, Morris Bros., Rees & Williams, Swan Motor Co., Castell-nedd a Chaerdydd, Llynfi, Red & White, Western Welsh a London Transport. Mae'r amgueddfa hefyd yn cynnwys casgliad bach o gerbydau eraill megis injan dân y Green Goddess a'r Scammell Scarabs clasurol.
Mae'r amgueddfa wedi'i lleoli ym Mharc Busnes SA1 (safle ffatri'r AWCO gynt), Fabian Way, Port Tennant. Mae hi ar agor dydd Sul: 10am tan 5pm, Llun-Gwener: 9am tan 4pm.
| Gwefan | www.swanseabusmuseum.com |
|---|---|
| Gwasanaethau | 157, 158, 224, X1, X3 |