Diwrnodau allan yng Nghwm Tawe

Cwm Clydach

Mwynhewch ymlwybro drwy'r Warchodfa RSPB hon mewn lleoliad coetir heddychlon ar ddiwrnod hyfryd o haf. Efallai byddwch yn gweld gwybedog brith, tingoch neu foncath, yn ogystal â bronwen y dŵr ar hyd afon Clydach isaf.

Gwybodaeth am Gwm Clydach
Gwefan www.baytrans.org.uk
Gwasanaethau Mynediad drwy wasanaeth 121 i Graig Cefn Parc.

Taith Gerdded Camlas Pontardawe

Mae Cwm Tawe ar ei harddaf a'i fwyaf heddychlon ar hyd y gamlas, wedi'i wahanu o'r brif ffordd drwy'r cwm. Mae'r gamlas ym mherchnogaeth Dyfrffyrdd Prydain ar gyfer rhan gyntaf y daith gerdded, ac o Ynys-meudwy ymlaen, mae'n rhan o warchodfa natur linellol a reolir gan Gyngor Castell Nedd Port Talbot.

Gwybodaeth am Daith Gerdded Camlas Pontardawe
Gwefan --
Gwasanaethau 120, 125

Clydach, Dynamic Rock

Canolfan dringo pwrpasol dan do yw Dynamic Rock, sy'n lleoliad dringo creigiau dan do o ansawdd uchel ar gyfer dringwyr a darpar ddringwyr o bob oedran a gallu.

Gwybodaeth am Glydach, Dynamic Rock
Gwefan --
Gwasanaethau 120, 121, 122, 125

Canolfan y Celfyddydau Pontardawe

Mae Canolfan y Celfyddydau Pontardawe yn lleoliad diwylliannol amlbwrpas yn Sryd Herbert Mae'r ganolfan wedi adeiladu enw haeddiannol am adloniant byw a chelf weledol sy'n ymwneud â sbectrwm eang o adloniant cyffrous.

Wedi'i hagor ym 1996, mae Canolfan y Celfyddydau yn derbyn arian craidd gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac mae'n cynnal a chadw rhaglen amrywiol gan gynnwys:

  • Drama - i oedolion a phlant, yn Gymraeg ac yn Saesneg
  • Dawns - clasurol a chyfoes
  • Comedi - clwb comedi a digrifwyr wedi'u henwi
  • Cerddoriaeth - cerddoriaeth roots, y byd, y blues, roc/pop
  • Adloniant - i oedolion a phlant gan gynnwys pantomeim
  • Ffilm - prif ffrwd ac arbenigol gyda chlwb ffilmiau preswyl

Mae'r adeilad hefyd yn gartref i Oriel Lliw sy'n arddangos deuddeg arddangosfa'r flwyddyn gan arlunwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol; Cymdeithas Operatig Amatur Clydach a'r Cylch; Ysgol Theatr Class Act, ac Ysgol Bale Pamela Miller.

Gwybodaeth am Ganolfan y Celfyddydau Pontardawe
Gwefan www.npt.gov.uk
Gwasanaethau 120, 121, 122, 125, 132, 148, X20, X22, X25

Gwaith Haearn Ynyscedwyn

Crëwyd Parc Gwaith Haearn Ynyscedwyn ar safle'r gwaith haearn a wnaeth Ystradgynlais yn enwog. Yn ôl tystiolaeth a ddarganfuwyd yma, roedd haearn yn cael ei smeltio yma ers mor gynnar â 1612. Daeth gwneud haearn i ben ym 1941 a dim ond y bwâu sy'n esgyn a'r peiriannau a ddiogelwyd sy'n aros o hyd.

Gwybodaeth am Gwaith Haearn Ynyscedwyn
Gwefan www.ystradgynlais.info
Gwasanaethau 120, X20, 125