Gwerthiant Corfforaethol
Arbedion gwych ar gyfer eich gweithwyr gyda'n Clwb Teithio Corfforaethol a Chynllun Teithio Gwyrdd pwrpasol ar gyfer eich Busnes.
Os ydych yn gyflogwr sydd eisiau cynnig dewis sy'n ddi-straen ac yn ecogyfeillgar i'ch staff neu eich cleientiaid - gall First eich helpu.
Nid yw'r daith i'r gwaith yn mynd yn rhwyddach. Mewn tagfeydd traffig trwm gall ansawdd yr awyr y tu mewn i gar fod yn waeth na'r awyr y tu allan. A chyda thrafnidiaeth yn mynd yn fwy yn barhaus, nid yw'n syndod bod 75% o yrwyr yn dweud eu bod weithiau o dan straen, yn grac neu mewn cyflwr o gyffro pan fyddant y tu ôl i'r llyw.
Gall gweithwyr sy'n teithio ar y bws fod yn llai o dan straen, yn fwy iach a threulio llai o amser yn sownd mewn tagfeydd traffig. Wrth annog eich staff i ddefnyddio'r bws yn lle eu ceir byddwch yn gwneud rhywbeth o fudd i'ch staff, eich busnes ac i'r amgylchedd.
Gyda chostau tanwydd a thaliadau parcio ceir yn cynyddu ni fu erioed adeg well i ystyried newid i drafnidiaeth gynaliadwy.
Mae First yn cynnig gostyngiadau corfforaethol drwy ein Clwb Teithio Corfforaethol, ar deithiau ar fysiau'n lleol ac mae'n gweithio mewn partneriaeth gyda chi i ddatblygu Cynllun Teithio Gwyrdd pwrpasol i'r Staff ar gyfer eich busnes, gan gynnwys gwybodaeth am amserlenni a thocynnau a deunyddiau hyrwyddo. Gall ein Rheolwr Busnes Masnachol ymweld â'ch busnes, gwneud cyflwyniadau a siarad â'ch gweithwyr am gynlluniau teithio personol.
Mae annog eich gweithwyr i gymryd seibiant i ffwrdd o'u ceir yn dda i'r amgylchedd, eich staff ac i'ch busnes hefyd. Mae Cynllun Teithio Gwyrdd i'r Staff yn dangos bod eich busnes yn cymryd ei gyfrifoldebau amgylcheddol, cymdeithasol a chorfforaethol ehangach o ddifrif.
Cysylltwch â Sue Arrowsmith ar 07884 116 442 neu anfonwch neges e-bost at sue.arrowsmith@firstgroup.com