Cerdyn FirstBus a Rheilffordd

1 tocyn, 2 ffordd i deithio

Teithio diderfyn drwy'r dydd am £10 yn unig

Teithio diderfyn drwy'r dydd ar fysiau First a threnau First Great Western yn Ne Cymru.

* Mae telerau ac amodau'n gymwys

PLUSBUS

Mae PLUSBUS yn docyn am bris gostyngedig ar gyfer teithio diderfyn ar y bws o gwmpas y dref (fel "tocyn mantais") rydych yn ei brynu gyda'ch tocyn trên. Gall teithio ar y bws fod ar ddechau, ar ddiwedd neu ar bob pen eich taith drên. Felly rydych yn talu am eich taith gyfan mewn un trafodyn rhwydd yn yr orsaf drenau (neu dros y ffôn).

Gyda PLUSBUS gallwch chi neidio ar wasanaethau bysiau sy'n cymryd rhan a neidio oddi arnynt o fewn ardal drefol gyfan y dref. Mae'n ffordd wych o wneud rhan olaf eich taith!

Y prisiau a'r ffiniau ar gyfer tocynnau PLUSBUS yn Ne Cymru yw:

Abertawe

Prisiau Abertawe
Diwrnod £2.50
Wythnos £12.00
Mis £46.00
Tri mis £130.00
Blwyddyn £360.00

Yn ddilys yn yr ardal sy'n ffiniedig gan: Jersey Marine (Gwesty'r Tower), Bowen Arms, Cylchfan Ynysforgan, Ysbyty Treforys, Cylchfan Penllergaer, Gorsaf Fysiau Gorseinon, Ship and Castle Casllwchwr, Cilâ Uchaf, Clogwyni Pennard.

Castell-nedd

Prisiau Castell-nedd
Diwrnod £2.50
Wythnos £12.00
Mis £46.00
Tri mis £130.00
Blwyddyn £360.00

Yn ddilys yn yr ardal sy'n ffiniedig gan: Rhos (Swyddfa Bost), Resolfen (New Inn), Creunant (Clwb Rygbi), Tonmawr (Terfynfa), Bowen Arms, Jersey Marine (Gwesty'r Tower), Llansawel (Cylchfan).

Port Talbot

Prisiau Port Talbot
Diwrnod £2.50
Wythnos £12.00
Mis £46.00
Tri Mis £130.00
Blwyddyn £360.00

Yn ddilys yn yr ardal sy'n ffiniedig gan Eglwys Baglan/Swan Road, Sandfields i gyd, Ysbyty Groeswen, Cwmafan, Brynbryddan, Tabor, Goetre ac Ynysgwas.

Pen-y-bont ar Ogwr

Prisiau Pen-y-bont ar Ogwr
Diwrnod £3.30
Wythnos £12.00
Mis £44.00
Tri Mis £131.00
Blwyddyn £516.00

Yn ddilys yn yr ardal sy'n ffiniedig gan Langrallo, Waterton Cross, Porthcawl, Croes y Pîl, Llanilltud Fawr, Mynyddcynffig, Pencoed, Lewistown, Nantymoel, Blaengarw, Maesteg, Bryn a Chroeserw.

Llanelli

Prisiau Llanelli
Diwrnod £2.50
Wythnos £12.00
Mis £46.00
Tri Mis £130.00
Blwyddyn £360.00

Felinfoel/Swiss Valley, Dylan, Cefn Caeau, Morfa, Seaside, Sandy Road a Ffwrnais, y Ganolfan Adar Gwylltion, Pont Llwchwr, Parc Trostre, Parc Pemberton.

Caerfyrddin

Prisiau Caerfyrddin
Diwrnod £2.50
Wythnos £12.00
Mis £46.00
Tri Mis £130.00
Blwyddyn £360.00

Trevaughan, Ffordd Bronwydd, Depo Glangwili, Abergwili, Llangynnwr, Ffordd Login, Brynmeurig/Brynhyfryd, Pibwrlwyd, Ystad Davies, Llanllwch, Travellers Rest, Pentremeurig.

Hwlffordd

Prisiau Hwlffordd
Diwrnod £2.50
Wythnos £12.00
Mis £46.00
Tri Mis £130.00
Blwyddynr £360.00

Ystad Masnachu Llwynhelyg, Ffordd Arberth (Cyffordd yr A40) Pont Fadlen, Cyffordd Ffordd Dale/Ffordd Palmerston, Haven Park Drive, Slade, Parc Redhill.

Dinbych-y-pysgod a Saundersfoot

Prisiau Dinbych-y-pysgod a Saundersfoot
Diwrnod £2.50
Wythnos £12.00
Mis £46.00
Tri Mis £130.00
Blwyddyn £360.00

Yr ardal sy'n ffiniedig gan Lydstep, St. Florence, Broadmoor, Cilgeti, Amroth.

Pas Fflecsi Crwydro Cymru

Darganfyddwch Gymru ar y bws ac ar y trên gyda Phas Fflecsi Crwydro Cymru - eich tocyn i reidio ar rwydwaith rheilffordd a bysiau'r wlad.

Mae pedwar math o bas, sydd oll yn cynnig teithio diderfyn ar holl wasanaethau'r prif reilffyrdd yng Nghymru, a rhan fwyaf y gwasanaethau bysiau rhestredig.

Mae'r Pas 8 niwrnod yn rhoi pedwar diwrnod o deithio ar y rheilffordd i chi ac wyth niwrnod o deithio ar y bysiau.

Os ydych yn aros yn un rhan o'r wlad, rhowch gynnig ar Docyn Fflecsi. Mae Tocyn Fflecsi Crwydro De Cymru yn caniatáu pedwar diwrnod o deithio ar y rheilffordd ac wyth niwrnod o deithio ar y bysiau.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth drwy ymweld â gwefan Pas Fflecsi Crwydro Cymru.