FirstMonth
Os ydych chi'n teithio'n rheolaidd o gwmpas De Cymru mae gennym y tocyn cywir i chi! Gwnewch fwy o arbedion gyda thocynnau misol.
- Mae'n lliniaru straen y daith cymudo bob dydd
- Ymlaciwch, darllenwch y papur neu mwynhewch y daith
- Newydd! Gallwch brynu tocynnau bellach ar y bws (talu ag arian parod yn unig).
Drwy brynu tocyn FirstMonth byddwch yn mwynhau budd prisiau teithio ar fysiau gostyngedig a'r rhyddid i ddewis pryd a ble rydych yn teithio ar rwydwaith bysiau lleol First.
Mae'r buddion yn fwy nag ariannol yn unig. Fel deiliad tocyn FirstMonth bydd gennych ryddid i deithio ar unrhyw daith rydych chi'n ei dewis mor aml ag y mynnwch chi, ar unrhyw adeg o fewn ardal eich dewis. Yn ogystal â hyn, wrth gwrs, byddwch yn osgoi strach prynu tocynnau'n ddyddiol - budd gwerthfawr ynddo'i hun.
| De a Gorllewin Cymru (Ardaloedd Llanelli, Sir Gaerfyrddin, Bae a Chymoedd Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr a gwasanaeth X2 i Gaerdydd) |
£68.00 | |
|---|---|---|
| FirstMonth Greyhound (Fel uchod, ond hefyd yn cynnwys Greyhound 100 i Gaerdydd) |
£88.00 | |
| Sir Benfro | £56.00 | |
Mae FirstMonth yn ddilys am hyd at 31 diwrnod yn olynol.
Mae tocyn First3Month deirgwaith pris tocyn FirstMonth.