Tocyn Dyddiol - FirstDay
Mae'r tocyn FirstDay yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd angen cymudo i'r gwaith ac yn ôl, mynd i siopa, neu hyd yn oed mynd ar drip diwrnod i unrhyw le yn yr ardal.
Gallwch brynu tocyn FirstDay ar unrhyw adeg o'r dydd a bydd yn parhau tan fws olaf y noson.
Bydd tocyn FirstDay, y gellir ei brynu gan unrhyw un o'n gyrwyr, yn caniatáu i chi deithio trwy'r dydd ar unrhyw wasanaeth bysiau First lleol.
| Oedolyn | £5.50 | |
|---|---|---|
| Plentyn* | £3.10 | |
| Teulu** | £11.30 | |
*FirstDay o dan 16 oed
**2 oedolyn + 3 phlentyn neu 1 oedolyn + 4 plentyn
Pobl Ifanc
Prisiau i blant
Caiff hyd at ddau blentyn dan 5 oed deithio am ddim gyda phob teithiwr sy'n oedolyn ac yn talu i deithio. Mae plant rhwng 5 a 15 oed yn talu dwy ran allan o dair o bris oedolion i'r 5c agosach. (Mae plant o 16 oed ymlaen yn talu prisiau oedolion). Mae'n ddrwg gennym, nid yw prisiau plant ar gael ar ôl 10.00pm.
Tocyn FirstDay dan 16 oed
Teithio diderfyn ar bob gwasanaeth bysiau lleol First yn Ne Cymru ac eithrio'r Greyhound 100 o Abertawe i Gaerdydd, am £3.10. Bellach mae ar gael unrhyw bryd. Prynwch eich tocyn ar y bws.
Tocyn FirstDay 16-18 oed
Teithio diderfyn ar bob gwasanaeth bysiau lleol First yn Ne Cymru ac eithrio'r Greyhound 100 o Abertawe i Gaerdydd, am £4.10. Ar gael ynghyd â Cherdyn Validate yn unig. Prynwch eich tocyn ar y bws