Prisiau Safonol
Dylech chi sicrhau bod gennych docyn dilys yn eich meddiant ar gyfer y daith gyfan. Os byddwch yn prynu tocyn gan y gyrrwr, sicrhewch bob tro eich bod yn mynd â'r tocyn a roddwyd i chi a'i gadw ar gyfer y daith.
Os oes gennych bas y talwyd amdano eisoes dangoswch hwn i'r gyrrwr wrth i chi fynd ar y bws.
Efallai bydd swyddog y cwmni yn gofyn i chi ddangos eich tocyn ar unrhyw adeg yn ystod eich taith; mae'n bosibl y bydd methu dangos tocyn dilys yn golygu bod rhaid i chi dalu'r pris llawn ar gyfer y daith eto, neu efallai bydd gofyn i chi fynd oddi ar y bws.
Os cewch eich dal gyda thocyn ffug, wedyn caiff yr heddlu eu galw a byddwn bob amser yn ceisio gorfodi erlyniad troseddol. Rydym hefyd yn cadw'r hawl i adfer unrhyw refeniw a gollwyd, drwy'r llysoedd sifil.
Mae swyddogion y Cwmni wedi'u hawdurdodi i godi ffioedd cosb ar deithwyr:
- Sy'n cael eu dal heb docyn, pas, neu drwydded
- Sy'n teithio i rywle y tu hwnt i'r cyrchfan y talwyd amdano
- Sy'n camddefnyddio tocynnau rhagdaledig
- Sy'n teithio am bris gostyngedig heb y cerdyn ffotograff sy'n ofynnol
- Unrhyw doriad arall o'r Amodau Teithio ar ddisgresiwn y Cwmni
Gosodwyd pris y gosb ar £20 ac mae'n daladwy o fewn 10 diwrnod.