Pethau i'w gwneud

Mae Abertawe, man geni Dylan Thomas, ac ail ddinas fwyaf Cymru wedi'i lleoli o fewn pellter o ehangylch 5 milltir Bae Abertawe. Mae gan Abertawe'r farchnad dan do fwyaf yng Nghymru, lle gallwch flasu a phrynu llawer o ddanteithfwydydd megis cocos a bara lawr.
Mae ganddi farina ac Ardal Forwrol arobryn, sy'n gartref i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a'r Cyfadeilad Hamdden newydd, LC2.
Mae Hwylbont eiconig sydd 142 metr o hyd ac yn cynnwys mast anferth 40 metr o uchder yn cysylltu'r Ardal Forwrol â datblygiad newydd SA1 ar y glannau
Ar ddiwedd Bae Abertawe mae'r Mwmbwls, pentref glan môr Fictoraidd sy'n llawn cymeriad ac yn boblogaidd ymhlith y myfyrwyr.
Mae Stadiwm Liberty, sy'n gartref i'r Gweilch a'r 'Elyrch' yn lleoliad cyngherddau/digwyddiadau poblogaidd sy'n agos i Barc Manwerthu Morfa.
Wedi'i leoli ger meysydd chwarae King George V, mae Pwll Cenedlaethol Cymru'n gyfleuster pwysig sydd ar gael i aelodau'r cyhoedd o bob oedran a gallu. Mae gan Bwll Cenedlaethol Cymru ystod llawn o ddosbarthiadau yn ogystal â gweithgareddau iechyd a ffitrwydd.
Wedi'i leoli ar ddiwedd yr ardal caffis a barrau poblogaidd yn Wind Street, mae'r Sinema Vue amlbleth sydd â 12 sgrin yn cynnig seddau stadiwm, a chyfarpar sain a thaflunio sydd gyda'r gorau yn y byd, ac sy'n peri i chi deimlo eich bod yng nghanol yr holl ddrama!
Oes angen gwybodaeth am amserlenni ar gyfer y lleoliadau hyn arnoch?