First - transforming travel
Skip navigation
Monster 08 120K Loch Ness Team Challenge

South & West Wales - De a Gorllewin Cymru

Find a bus



OR


Ynghylch First yn Ne 
a Gorllewin Cymru

Mae First Cymru yn cario tua 21 miliwn o deithwyr bob blwyddyn ar rwydwaith o lwybrau yn Ne a Gorllewin Cymru, gan wasanaethu Sir Pen-y-bont, Castell-nedd, Port Talbot, Abertawe, Llanelli, Caerfyrddin, Hwlffordd a de Sir Benfro.

Yn gyffredinol, mae ein llwybrau'n cynnig gwasanaethau bws amledd uchel, trefol a rhyng-drefol gan ddefnyddio bysiau mynediad hawdd modern. Caiff y rhain eu hategu gan gwasanaeth bws 'Shuttle 100' poblogaidd a chyflym rhwng Caerdydd ac Abertawe.

Mae'r cwmni'n cyflogi bron 1000 o staff ac mae gan y cwmni fflyd o tua 350 o gerbydau. Mae First Cymru'n cydweithio'n agos ag awdurdodau lleol trwy'r ardal er mwyn sicrhau dull gwaith partneriaethol at gynllunio a datblygu gwasanaethau newydd ac i ddelio â materion o gynhwysiant cymdeithasol.

Mae First Cymru'n cynnig ystod o docynnau arbennig i deithwyr cyson fel y gallwch arbed arian wrth i chi deithio ar fws yn Ne a Gorllewin Cymru.

Felly, os ydych yn gwneud nifer o deithiau mewn un diwrnod, neu'n gymudwr rheolaidd, mae gennym ni docyn addas ar gyfer eich anghenion a'ch poced.

Manylion y cwmni:

Bysiau First Cymru Cyfyngedig. Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr Rhif 00133884. Swyddfa Gofrestredig: Heol Gwyrosydd, Penlan, Abertawe, SA5 7BN.

Ynghylch First yn Ne 
a Gorllewin Cymru