First - transforming travel
Skip navigation

South & West Wales - De a Gorllewin Cymru

Find a bus



OR


FirstBus & RailCard.

1tocyn 2ffordd o deithio
Teithio diderfyn trwy’r dydd am ddim ond £10*

Teithio diderfyn trwy’r dydd ar fysiau First a threnau First Great Western yn ne Cymru.

* Yn unol â thermau ac amodau

Enquiries: 08457 48 49 50
Combined Bus and Rail. Bus Plus

PLUSBUS


Tocyn am bris disgownt yw PLUSBUS ar gyfer teithio di-ben-draw mewn bysiau o amgylch y dref (sydd fel “pas bws”) y gallwch ei brynu gyda’ch tocyn bws. Gallwch deithio ar y bws ar ddechrau, diwedd neu ar ddeupen eich siwrnai ar y trên. Felly, byddwch yn talu am un siwrnai gyfan mewn un pryniant syml yn yr orsaf drenau (neu dros y ffôn). Gyda PLUSBUS, gallwch ddal y gwasanaeth bysiau sy’n cymryd rhan neu oddi arno o fewn holl ardal ddinesig y dref. Mae’n ffordd arbennig i gwblhau rhan olaf eich taith!

Y prisiau a’r ffiniau ar gyfer tocynnau PLUSBUS yn Ne Cymru yw:

Abertawe

£2.50 50 y dydd, £12 yr wythnos, £46 y mis, £130 am dri mis a £360 y flwyddyn.

Mae’r tocyn yn ddilys yn yr ardal sydd o fewn ffiniau: Jersey Marine (Gwesty Tower), Tafarn Bowen, cylchfan Ynysforgan, Ysbyty Treforys, Cylchfan Penlle'r-gaer, Gorsaf Bysiau Gorseinon, Ship & Castle, Casllwchwr, Cilâ Uchaf, Clogwyni Pennard.

Castell-nedd

£2.50 y dydd; £12 yr wythnos; £46 y mis; £130 am dri mis a £360 y flwyddyn.

Mae’r tocyn yn ddilys yn yr ardal sydd o fewn ffiniau: Y Rhos (Swyddfa Bost), Resolfen (New Inn), Creunant (Clwb Rygbi), Ton-mawr (Terminws), Tafarn Bowen, Jersey Marine (Gwesty Tower), Llansawel (Cylchfan).

Port Talbot

£2.50 y dydd, £12 yr wythnos, £46 y mis, £130 am dri mis a £360 y flwyddyn.

Mae’r tocyn yn ddilys yn yr ardal sydd o fewn ffiniau: Eglwys Baglan /Swan Road, Sandfields i gyd, Ysbyty’r Groes-wen, Cwmafan, Brynbryddan, Tabor, Goetre ac Ynys y Gwas.

Pen-y-bont ar Ogwr

£3.30 y dydd, £12 yr wythnos, £44 y mis, £131 am dri mis a £516 y flwyddyn.

Mae’r tocyn yn ddilys yn yr ardal sydd o fewn ffiniau: Llangrallo, Waterton Cross, Porthcawl, y Pîl, Llanilltud Fawr, Mynyddcynffig, Pen-coed, Lewistown, Nant-y-moel, Blaengarw, Maesteg, y Bryn a Chroeserw.

Sir Gaerfyrddin

£5.50 y dydd, £22 yr wythnos, £80 y mis, £240 am dri mis a £946 y flwyddyn.

Mae’r tocyn yn ddilys drwy Sir Gaerfyrddin i gyd.

Hwlffordd a Dinbych-y-pysgod

£5.50 y dydd, £22 yr wythnos, £80 y mis, £240 am dri mis a £946 y flwyddyn.

FlexiPassLogo

Pas Fflecsi Crwydro Cymru

Dewch i ddarganfod Cymru drwy fynd ar fws neu drên gyda’n Pas Fflecsi Crwydro Cymru – dyma’ch tocyn i deithio ar rwydwaith trenau neu fysiau’r wlad.

Mae pedwar math o bas, bob un yn cynnig teithio di-ben-draw ar holl wasanaethau rheilffodd prif linellau Cymru a’r rhan fwyaf o’r gwasanaethau bysiau.

Mae’r Pas 8 diwrnod yn cynnwys pedwar diwrnod i chi deithio ar y trenau ac wyth diwrnod ar y bysiau.

Os byddwch am gadw at un rhan o’r wlad, rhowch gynnig ar FlexiRover. Mae’r FlexiRover sy’n rhan o Bas Fflecsi Crwydro Cymru yn caniatáu ichi deithio ar y trenau am bedwar diwrnod ac wyth diwrnod ar y bysiau.

Cewch ragor o wybodaeth drwy ymweld â gwefan Pas Fflecsi Cymru.