South & West Wales - De a Gorllewin Cymru

Eiddo Coll
Os ydych yn amau eich bod wedi gadael eitem ar un o'n bysiau, yn y lle cyntaf cysylltwch â'n llinell gymorth Gwasanaethau Cwsmeriaid:
Tel: 01792 572255 0700 - 2200 bob dydd.
Yna, cewch eich ailgyfeirio at rywun a all helpu yn y depo lleol priodol.
Buasai'n ddefnyddiol pe bai gennych y wybodaeth ganlynol:
- Amser a dyddiad y daith.
- Rhif gwasanaeth y bws.
- Y fan lle ddaethoch oddi ar y bws.
Mae'n bwysig eich bod yn Gyfforddus ac yn Ddiogel
Wrth deithio ar fysiau First Cymru, mae'r un mor bwysig i ni ag ydyw i chi eich bod yn gyfforddus ac yn ddiogel.
A fyddech cystal â'n cynorthwyo fel a ganlyn:
- Osgoi siarad â'r gyrrwr tra bo'r cerbyd yn symud, oni bai bod argyfwng.
- Dangos yn glir ac mewn da bryd fod angen i chi ddod ar y bws, neu ei adael. Codwch eich braich pan yr ydych yn sefyll wrth safle bws neu canwch y golch pan yr ydych ar y bws.
- Defnyddiwch y gwregysau diogelwch ar gerbydau sydd â gwregysau diogelwch wedi'u gosod arnynt.
- Peidiwch â gadael eich sedd nes bod y bws wedi aros wrth eich safle.
Gorsaf Fysiau'r Cwadrant
Sylwer, unwaith bod y gyrrwr wedi cau drysau'r teithwyr ac wedi dechrau bacio'r bws i ffwrdd o'r gilfach godi ni fyddant yn dychwelyd i'r gilfach i godi teithwyr oherwydd gofynion diogelwch.
Diolch!














