South & West Wales - De a Gorllewin Cymru

Gyda'ch tocynnau DiwrnodFirst ac WythnosFirst lleol, rydych chi'n talu dim ond am yr ardal rydych chi'n dewis teithio ynddi. Ond i sicrhau ein bod ni'n cynnig cymaint o ddewis ag y bo modd, rydyn ni hefyd wedi cyflwyno tocyn NEWYDD - FirstAMwy!
Mae FirstAMwy yn cynnig dewis i gwsmeriaid sydd â thocynnau DiwrnodFirst neu WythnosFirst i estyn dilysrwydd eu tocyn. Mae tocyn FirstAMwy yn costio £1 ychwanegol ac mae'n rhaid cael tocyn DiwrnodFirst neu WythnosFirst hefyd.
Er enghraifft:
Os ydych chi'n prynu tocyn Llanelli DiwrnodFirst neu WythnosFirst, ond wedyn yn penderfynu teithio i Abertawe, talwch £1 ychwanegol yn unig am docyn FirstAMwy a fydd yn estyn y tocyn mewn i ardal tocyn Bae Abertawe.
Os ydych chi'n prynu tocyn Pen-y-bont a'r Sir DiwrnodFirst neu WythnosFirst, ond wedyn yn penderfynu teithio i Abertawe, talwch £1 ychwanegol yn unig am docyn FirstAMwy a fydd yn estyn y tocyn mewn i ardal tocyn Bae Abertawe.

Prynwch eich tocyn FirstAMwy pan fyddwch yn prynu'ch tocyn WythnosFirst ac estynwch eich teithio wythnos am £1 yn unig (cyfanswm £18.50)













