South & West Wales - De a Gorllewin Cymru

Croeso i wefan First Cymru. Rwy'n gobeithio y byddwch yn mwynhau defnyddio’r safle ac yn dod o hyd i’r wybodaeth yr ydych ei heisiau.
Yn Abertawe mae taith ftrMetro yn gwbl weithredol gyda gwasanaethau yn rhedeg rhwng Treforys ac Ysbyty Singleton bob 12 munud ar ddydd Llun i ddydd Gwener a phob 15 munud ar ddydd Sadwrn.
Mae ymateb y rheiny sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth hyd yn hyn wedi bod yn gadarnhaol iawn. Felly, os nad ydych wedi profi cyfleustra’r gwasanaeth traws tref hwn eto gyda’i fesurau blaenoriaeth a cherbydau newydd sbon, beth am roi cynnig arno cyn bo hir?
Ar yr adeg hon o’r flwyddyn rydym yn mynd ati i groesawu myfyrwyr newydd i’r ardal, yn enwedig i Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe. Mae ein gwasanaeth bws lleol yn cynnig y ffordd orau o archwilio amgylchoedd eich 'cartref' newydd; mae ein tocynnau myfyrwyr yn werth eithriadol o’ch arian. Mwy o newyddion da yw bod ein gwasanaeth haf ni i Dde Gwyr (X18) yn parhau ar benwythnosau y tu hwnt i’r dyddiad terfyn gwreiddiol yn gynnar ym mis Hydref; bydd bellach yn rhedeg tan 6 Rhagfyr ond cadwch lygad allan am gyhoeddiad pellach yn y Flwyddyn Newydd.
Mae’r Nadolig ar y gorwel a bydd ein Teithiau Siopa Arbennig i ben teithiau poblogaidd yn cael eu hysbysebu cyn bo hir; bydd manylion llawn ar gael ar y safle hwn cyn hir. Yn y cyfamser, mae datblygiadau yng Nghaerdydd yn golygu bod siop newydd John Lewis ar agor, a disgwylir i ganolfan enfawr Dewi Sant 2 gael ei chwblhau'r hydref hwn. Fel arfer, y ffordd orau i gyrraedd yno yw ar ein bws traffordd cyflym - 'Shuttle100' - ac oes awydd arnoch aros yn hwyrach yng Nghaerdydd, bellach gallwch ddychwelyd gyda First Great Western ar y trên ar yr un tocyn.
Y cyfan sydd yn rhaid i chi ei wneud yw eistedd yn ôl ac ymlacio a gadael i ni yrru!
Tony McNiff - Rheolwr Gyfarwyddwr













